Mae criw o blant o Wynedd sydd ag anghenion ychwanegol, a’u rhieni, gyfle yr wythnos hon i ddod ynghyd i drafod stigma.
Gall stigma fod yn anodd ddygymod ag e i rieni neu ofalwyr plant sydd â chyflyrau fel awtistiaeth neu anghenion dysgu ychwanegol.
Yng nghwmni tîm Awtistiaeth Gwynedd, nyrs ysgol arbenigol a gwasanaeth teuluoedd, cafodd rhieni rannu eu profiadau, derbyn cyngor, a chael cefnogaeth gyfrinachol yn ystod sesiwn arbennig yr wythnos ddiwethaf (Rhagfyr 18).
Roedd y sesiwn yn agored i deuluoedd ledled y sir, gyda blaenoriaeth i bobol nad ydyn nhw’n cael cefnogaeth drwy wasanaethau arbenigol.
Budd mawr
Gyda nifer o heriau i rieni neu ofalwyr plant ag awtistiaeth neu anghenion ychwanegol, roedd hwn yn gyfle ychydig yn wahanol i’r arfer iddyn nhw gael cefnogaeth.
Yn ôl Jessica Edwards, yr Arweinydd Anghenion Cymhleth Arbenigol ar gyfer Môn a Gwynedd, roedd y sesiwn mewn lleoliad cyfleus i bawb, ac mae’r math yma o grŵp yn gymorth mawr i’r rhieni neu ofalwyr a’u plant, neu bobol ifanc ar sawl lefel.
Dywed mai’r pethau bychain sy’n bwysig, gan gynnwys cael sgwrs dros baned a mins peis – “rhywbeth mor syml sydd, mewn gwirionedd, yn effeithiol iawn”.
“I rieni, gall fod yn eithaf ynysig neu gallan nhw fod o dan straen os oes ganddyn nhw blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol,” meddai wrth golwg360.
“Mae’n fuddiol i bawb dan sylw, mewn gwirionedd.
“Rwy’n meddwl ei bod yn help mawr fod gennym y grwpiau hyn, a’u bod nhw’n hawdd eu cyrraedd.
“Mae o mewn lleoliad eithaf hamddenol, felly mae pawb yn teimlo’n gyfforddus.
“Drwy ddod i’r grŵp, mae wastad rhywun yno i helpu, rhywun yno sy’n gwybod beth sydd ei angen arnoch chi, beth rydych chi’n mynd drwyddo, neu beth sydd angen ei gael.
“Efallai na fydd angen unrhyw beth arnoch chi, ond mae’n braf creu’r perthnasoedd hynny.
“Gall bod mewn grŵp cymorth ar gyfer awtistiaeth helpu person ag awtistiaeth neu ei ofalwyr.
“Gall llawer o bobol deimlo’n ynysig, felly gall dod ynghyd fel rhieni i rannu strategaethau ar gyfer delio â sefyllfaoedd ac ymddygiadau penodol, a chael cyngor, helpu.
“Mae grwpiau awtistiaeth ac anghenion arbennig yn rhoi llwyfan i rieni a gofalwyr rannu eu profiadau.
“Gallan nhw rannu syniadau ar gyfer rheoli materion yn ymwneud ag awtistiaeth, neu unrhyw blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Gallan nhw helpu rhieni i gael cipolwg ar batrymau ymddygiad unrhyw blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol, a strategaethau effeithiol i ddelio â rhwystredigaethau a sefyllfaoedd.
“Mae’n braf dod at ein gilydd.
“Mae’n bosibl na fydd gan lawer o deuluoedd â phlant ag anghenion dysgu ychwanegol ffrindiau’r un fath â’r plant.”
Heriau
Yn ôl Jessica Edwards, mae cryn dipyn o heriau ynghlwm wrth ddeall awtistiaeth ac anghenion dysgu ychwanegol, yr effaith ar unigolion, ac ymateb pobol eraill hefyd.
“Byddai’n eithaf anodd nodi pob un,” meddai.
“Mae gennych chi eich heriau bob dydd, fel mynd â’ch plentyn i’r archfarchnad.
“Efallai y bydd rhai rhieni’n teimlo’n ynysig, gyda phobl yn syllu.
“Mae diffyg gwybodaeth y boblogaeth gyffredinol am sut i gyfathrebu â phlentyn neu pan fydd pobol yn syllu.
“Efallai y bydd rhai rhieni yn teimlo baich wrth fagu plentyn ag anghenion dysgu ychwanegol.
“Gallai llawer o blant ag anghenion dysgu ychwanegol fod yn 12 oed, ond efallai bod ganddyn nhw wybyddiaeth plentyn tair oed.
“Mae’n llawer o straen.
“Efallai y bydd yn rhaid i rai pobol gael cymorth ychwanegol, neu efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gael swydd ychwanegol i helpu gyda chostau sy’n ymwneud â gofal.
“Dydy llawer o’r plant hyn ddim yn mynd i Ysgol Pendalar nac Ysgol y Bont, maen nhw’n mynd i’r brif ffrwd.
“Mae llawer o’r plant hyn yn methu ymdopi a goddef bod yn yr ysgol o 9-3.
“Mae llawer ohonyn nhw’n gwneud amserlenni hamddenol, lle maen nhw ond yn mynd mewn cwpwl o oriau’r dydd. Mae’n rhaid i’r rhieni fod adref wedyn.
“Mae prinder amser i’r rhieni hefyd, dydy o ddim yn ymwneud â’r plentyn yn unig – gwneud yn siŵr bod gwaith yn iawn, eu bod yn cynnal perthynas â’u ffrindiau, sicrhau eu bod yn gallu rhedeg eu cartref.
“Gallaf bwysleisio gyda theuluoedd, does dim llawer o amser iddyn nhw roi eu hunain neu eu plant yn gyntaf.
“Mae’n anodd.
“Mae gan blant ag anghenion dysgu ychwanegol heriau cyfathrebu – mae cyfathrebu llafar yn her i rai plant.
“Mae cyfathrebu yn ffactor sy’n crynhoi straen a phryder rhieni.
“Mae gennym ni lawer o blant di-eiriau, efallai na fyddan nhw’n gallu siarad, mae ganddyn nhw riant neu athro sy’n eu deall. Maen nhw’n gwybod sut maen nhw eisiau rhai pethau.
“Heb y person hwnnw sy’n gallu ymgysylltu a chyfathrebu, mae’n dipyn o straen.
“Rwy’n meddwl bod llawer ohono’n stigma.
“Dydy pawb ddim mor addysgedig â’r rhieni, y gofalwyr a’r gweithwyr proffesiynol.
“Dydy pawb ddim mor sensitif, caredig a derbyniol â ni.
“Mae adweithiau negyddol yn effeithio ar y plant a’r rhieni. Stigma.
“Weithiau, gall drafferthu’r rhiant un diwrnod, ond ddim y diwrnod nesaf.
“Weithiau, gall aros gyda nhw.
“Rwy’n meddwl bod hynny’n her enfawr.”
Y cymorth sydd ar gael
Mae Tîm Gofal Gwynedd yn helpu gofalwyr/ rhieni a phlant a phobol ifanc ar lefel ddynol ac addysgol.
“Mae tîm Gofal Gwynedd newydd ddod at ei gilydd i fynd i’r afael ag anghenion a phryderon i ofalwyr plant ac oedolion ifanc,” meddai Jessica Edwards.
“O fewn y tîm, gallan nhw sefydlu cysylltiadau â’r rhai sy’n rhoi gofal, a’u cyfeirio nhw at unrhyw anghenion neu bryderon.
“Mae’n creu cymuned lle gall pobol gysylltu â’i gilydd – gall hynny fod gyda rhieni eraill, gallan nhw siarad â phobol yn y Tîm Awtistiaeth, efallai y byddan nhw’n gallu pwyntio at deulu, yn ofalwyr neu blant, am gyngor meddygol neu arbenigol, neu hyd yn oed eu helpu i gysylltu â ni.
‘Gallwn ehangu i addysg.
“Rwy’n meddwl ei bod yn dda i’r rhieni a’r plant gymryd rhan oherwydd mae’n sefydlu’r cysylltiadau hynny ac yn eu helpu i fod gydag aelodau eraill o’r teulu a siarad.
“Rwy’n meddwl ei fod yn brofiad cadarnhaol ar y cyfan.”