Bydd protest ar safle RAF Fali ym Môn heddiw (dydd Iau, Rhagfyr 28) yn erbyn gwerthu arfau i Israel.

Daw hyn wrth i’r byd gofio’r Brenin Herod yn lladd pob bachgen dwyflwydd oed ac iau yng nghyffiniau Bethlehem mewn ymgais i ladd y baban Iesu.

Bydd ymgyrchwyr o bob rhan o Gymru’n ymgynnull am 2 o’r gloch i fynnu bod y tri chwmni sy’n gysylltiedig â’r ganolfan awyr yn rhoi’r gorau i werthu arfau i Lywodraeth Israel.

Mae’r ganolfan yn gweithredu dau fath o awyren, sy’n cael eu gweithgynhyrchu gan BAE Systems a RTX (Raytheon gynt).

Yn 2021, fe wnaeth y Weinyddiaeth Amddiffyn ddyfarnu cytundeb gwerth £32.5m i Elbit Systems, cwmni technoleg filwrol rhyngwladol o Israel a chontractwr amddiffyn, i weithredu pedair awyren ychwanegol tan 2033.

Mae pob un o’r tri chwmni hyn yn cynorthwyo ac yn annog hil-laddiad parhaus pobol Palesteina, ac mae Elbit Systems yn cynhyrchu 85%o offer tir yr IDF, yn ogystal ag 85% o’r dronau sy’n cael eu defnyddio gan Awyrlu Israel.

Mae’r cwmni hefyd yn hysbysebu bod eu hoffer wedi cael ei ‘brofi mewn brwydr’, mewn gweithrediadau yn Gaza a’r Lan Orllewinol.

Heddwch ar Waith

Wedi’i drefnu gan Heddwch ar Waith, rhwydwaith ymgyrchu heddwch sydd newydd gael ei sefydlu, bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull wrth berimedr y ganolfan i dynnu sylw’r cyhoedd at yr erchyllterau sy’n cael eu cyflawni ar hyn o bryd â chefnogaeth ein cynrychiolwyr etholedig ac arian trethdalwyr.

“Mae llywodraeth Rishi Sunak yn methu â lleisio barn 76% o boblogaeth y Deyrnas Unedig (YouGov) o blaid cadoediad, llwyr,” meddai Sam Bannon, Cydlynydd Heddwch ar Waith.

“Mae gan ei Lywodraeth Geidwadol a’r Unol Daleithiau o dan arweinyddiaeth yr Arlywydd Biden waed miloedd o sifiliaid diniwed Palesteinaidd ar eu dwylo.

“Yn ein protest, byddwn yn canolbwyntio’n neilltuol ar y 40% o’r rhai gafodd eu lladd yn Gaza y credir eu bod yn blant, ffigwr sy’n cyrraedd bron i 8,700 ar ddiwrnod cyhoeddi – yn ogystal â’r 180 o enedigaethau dyddiol i system gofal iechyd sy’n dirywio.

“Ers ffigurau ddoe, mae’r system gofal wedi’i thargedu o leiaf 250 o weithiau gan ymosodiadau Israel.

“Byddwn yn ymgynnull heddiw i leisio barn y mwyafrif helaeth o bobol Cymru i fynnu rhoi’r gorau i werthu arfau yn llwyr i Israel.”