Fydd diwygio ariannol na statud awtonomiaeth ddim yn cael eu trafod gan Sbaen a Chatalwnia, yn ôl Arlywydd Catalwnia.

Yn ôl Pere Aragonès, fu’n siarad ag Asiantaeth Newyddion Catalwnia (ACN), dim ond pleidlais wleidyddol all ddatrys yr anghydfod rhyngddyn nhw.

Datrys yr anghydfod yn unig yw diben cynnal trafodaethau, meddai, gan ychwanegu nad oes lle i ddatrysiadau nad ydyn nhw’n galluogi pleidlais ar annibyniaeth i gael ei chynnal.

“Mae angen i ni wahaniaethu’n glir iawn rhwng datrys y gwrthdaro gwleidyddol a thrafodaethau eraill sydd yr un mor bwysig,” meddai.

“Maen nhw’n ddau fater cwbl ar wahân.”

Gwrthdaro tros refferendwm

Cytunodd Pere Aragonès a Pedro Sánchez i gynnal trafodaethau yn ystod chwarter cyntaf 2024, yn dilyn cyfarfod yn Barcelona yr wythnos ddiwethaf.

Yn dilyn y cyfarfod, mynegodd Sánchez ei “barodrwydd llwyr” i ddatrys yr anghydfod, ond gan fynnu nad refferendwm annibyniaeth yw’r ateb.

Yn hytrach, dywedodd fod angen mwy o bwerau ymreolaeth a mwy o gyllid ar Gatalwnia.

Ond atebodd Aragonès drwy ddweud y byddai Catalwnia’n “amddiffyn ein hateb i’r gwrthdaro gwleidyddol”.

Problemau ariannol

Dywed Pere Aragonès fod sefyllfa ariannol Catalwnia’n “annioddefol”, ond na fyddai datrysiad i’r broblem honno’n ateb y broblem wleidyddol.

“Fydd mesurau cyllido ac economaidd ddim yn ateb y gwrthdaro,” meddai.

“Caiff y rheiny eu datrys trwy bleidleisio.”

Cyfeiriodd at y ffaith mai Catalwnia yw’r trydydd cyfrannwr mwyaf at econmomi Sbaen, ond eu bod nhw’n ddegfed o ran yr arian maen nhw’n ei gael yn ôl.