Mae tîm brysbennu clinigol y Gwasanaeth Ambiwlans wedi helpu i atal miloedd o deithiau i’r ysbyty, yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru.

Mae timau’r gwasanaeth brysbennu wedi ymdrin â mwy nag un ym mhob deg o alwadau 999 dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ddarparu gofal amgen yn hytrach na chludo cleifion i’r ysbyty.

Mae 83 o glinigwyr yn rhan o’r Tîm Gofal Integredig, a’r rheiny’n gymysgedd o barafeddygon, nyrsys a chlinigwyr iechyd meddwl, ac mae parafeddygon trawma ar gael i gefnogi a chynghori pan fo angen trin cleifion am anafiadau difrifol.

Mae clinigwyr yn asesu cleifion sy’n aros, ac yn siarad yn uniongyrchol â’r rhai sy’n ateb galwadau 999 er mwyn penderfynu a oes angen dull ymateb gwahanol, a yw’n ddiogel yn y fan a’r lle i’r claf fynd adref, ac i sicrhau nad oes angen newid blaenoriaeth yr alwad.

Ers Ionawr 1 eleni, mae’r Tîm Gofal Integredig wedi bod ynghlwm wrth 96,572 o alwadau, sy’n cyfateb i ryw 25% o’r holl alwadau 999 dros y flwyddyn.

O blith y rheiny, cafodd 39,269 eu rheoli gan roi cyngor clinigol dros y ffôn, gan osgoi’r angen i gleifion fynd i’r ysbyty mewn ambiwlans, gan leddfu’r pwysau ar adnoddau’r Gwasanaeth Ambiwlans fel bod modd iddyn nhw ymateb i alwadau mwy brys yn y gymuned.

Effaith drawsnewidiol

Mae Eluned Morgan wedi canmol y tîm yn dilyn ei hymweliad â Chanolfan Gyswllt Glinigol Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

“Mae sefydlu’r Tîm Gofal Integredig, gyda chymorth cyllid Llywodraeth Cymru, wedi gwella effeithlonrwydd gwasanaethau ambiwlans ac adrannau brys a lleihau’r pwysau arnyn nhw,” meddai.

“Mae hyn yn arbennig o bwysig yr adeg hon o’r flwyddyn pan fo’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd ar ei fwyaf s‌ylweddol.

“Mae’r tîm hefyd wedi trawsnewid ansawdd y gofal sy’n cael ei roi i bobol yn y gymuned drwy ddarparu ymyrraeth glinigol gynharach iddyn nhw yn y fan a’r lle, gan helpu i gadw capasiti ymateb ambiwlansys i’r rhai sydd fwyaf mewn angen.

“Mae gwaith sylweddol i’w wneud i wella amseroedd ymateb ambiwlansys, a hynny yn bennaf wrth i Fyrddau Iechyd wella perfformiad o ran trosglwyddo cleifion ambiwlans, ond roeddwn yn falch iawn o weld gyda’m llygaid fy hun waith pwysig y tîm hwn yn cyflawni ar gyfer cleifion.”

‘Pwysau’n fwy amlwg nag erioed’

“Rydyn ni’n falch iawn o’r tîm hwn sy’n cyfeirio cleifion at y gwasanaethau mwyaf priodol gan eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â rhyddhau ambiwlansys i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned,” meddai Penny Durrant, Rheolwr Gwasanaeth Tîm Gofal Integredig Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

“Dyma’r parafeddygon a’r nyrsys sydd, yn draddodiadol, wedi helpu cleifion wyneb yn wyneb, ond sydd bellach yn defnyddio’u sgiliau mewn ffordd wahanol gan frysbennu cleifion dros y ffôn.

“Ar adeg pan fo’r pwysau’n fwy amlwg nag erioed, dyma enghraifft o’r Ymddiriedolaeth yn meddwl yn wahanol am y modd y mae’n darparu gwasanaethau.

“Mae’n ymwneud â chwarae ein rhan ni i leddfu’r pwysau ar draws y system ehangach a gwella profiadau i’n cleifion.”