Mae polisi Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig o gyflwyno peint o win yn dangos eu bod nhw “wedi rhedeg allan o stêm”, yn ôl Aelod Seneddol Llafur y Rhondda.

Bydd poteli peint o win a gwin pefriog 568ml yn ymddangos ar silffoedd siopau yn fuan, gan gynnig mwy o ddewis i gwsmeriaid, yn ôl Adran Fusnes a Masnach y Deyrnas Unedig.

Bydd rheolau newydd hefyd yn cael eu cyflwyno ar feintiau imperialaidd.

Bydd y poteli newydd yn cael eu gwerthu mewn archfarchnadoedd, tafarnau, clybiau a bwytai.

Daw hyn fel rhan o ymdrechion gweinidogion yn San Steffan i newid deddfau gafodd eu sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y ddeddfwriaeth newydd, bydd gwin hefyd yn cael ei werthu mewn cynwysyddion 200ml, allai arwain at werthu gwin mewn tuniau.

Bydd modd prynu gwin pefriog mewn poteli 500ml.

‘Sefyllfa ddrwg’

Mae’r polisi wedi cael ei feirniadu gan Chris Bryant, yr Aelod Seneddol Llafur sy’n cynrychioli’r Rhondda yn San Steffan.

“Fe ddaeth yn sefyllfa ddrwg pan mai’r gorau y gall y llywodraeth feddwl amdano fe yw cyhoeddiad polisi mawr yn syth ar ôl y Nadolig y byddwch chi’n gallu prynu peint o win,” meddai.

“Dydy ‘wedi rhedeg allan o stêm’ ddim yn gwneud cyfiawnder ag e.”