Fe fu rhagor o gwyno am agwedd “sarhaus” Swyddfa’r Post yn Aberystwyth tuag at y Gymraeg.

Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal protest y tu allan i’r safle ym mis Hydref, yn dilyn cwynion gan aelodau a chefnogwyr am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yno.

Yn sgil cwynion am y gwasanaeth, cafodd rhai cwsmeriaid eu cyfeirio at swyddfeydd post cyfagos er mwyn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.

Ond roedd Cymdeithas yr Iaith yn dweud nad yw hyn yn ddigonol, gan gyfeirio at Fesur Iaith 2011 sy’n nodi bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a bod gan bawb y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.

Y cwynion diweddaraf

Daw’r cwynion diweddaraf mewn adolygiad ar wefan gymdeithasol Facebook gan Jac Jolly.

“Wedi derbyn gwasanaeth gwael gan aelod o’r staff yn safle’r Swyddfa Bost, Aberystwyth (o fewn siop WHSmith),” meddai.

“Agweddau sarhaus ac amharchus tuag at y Gymraeg wrth i mi ofyn am ffurflenni Cymraeg, gan nad oeddynt ar gael yn gyhoeddus efo’r ffurflenni Saesneg eraill.

“Y Swyddfa yna yn gwrthod darparu ffurflenni Cymraeg i’r cyhoedd.

“Sylwadau fel, ‘How many people in Aberystwyth actually speak Welsh?’ ac ‘one person can ask for Welsh [ffurflenni] and the other 999 will ask in English’ fel cyfiawnhad am y diffyg gwasanaeth a ffurflenni Cymraeg.

“Agweddau gwrth-Gymraeg amlwg yn y safle.”

Ymdriniaeth Swyddfa’r Post o’r Gymraeg “yn gwbl annerbyniol”

Cafodd piced ei gynnal yn Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 14)