Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith gynnal piced y tu allan i Swyddfa Bost Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 14), yn dilyn cwynion gan aelodau a chefnogwyr am ddiffyg gwasanaethau Cymraeg yno.
Yn sgil cwynion am y gwasanaeth, cafodd rhai cwsmeriaid eu cyfeirio at swyddfeydd post cyfagos er mwyn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.
Ond mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud nad yw hyn yn ddigonol, gan gyfeirio at Fesur Iaith 2011 sy’n nodi bod y Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru a bod gan bawb y rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
Yn ôl Siôn Jobbins, un sydd wedi cael anhawster wrth geisio mynediad at wasanaeth Cymraeg, nad yw hyn yn “fater yn erbyn unigolion”.
“Mae’n egwyddor y dylai staff sefydliad sy’n fonopoli gwladol fel Swyddfa’r Post ddeall peth geiriau syml Cymraeg, ac yn enwedig rhai sylfaenol yn eu busnes,” meddai.
“Dydw i ddim hyd yn oed yn disgwyl sgwrs Gymraeg.
“Dydy hi ddim yn ormod i ddisgwyl i aelod staff ddeall rhyw ddeg gair Cymraeg ac i allu parhau gyda phrynu llyfr stampiau yn y Gymraeg.
“Basai rhywun yn gobeithio y byddai aelod staff yn ddigon parchus a chwilfrydig i ddeall Cymraeg syml iawn gan gwsmer sy’n talu am wasanaeth.”
Annog mwy o Gymraeg
Anfonodd Cymdeithas yr Iaith lythyr at Swyddfa’r Post fis Medi, gan fynnu eu bod nhw’n codi arwyddion cwbl ddwyieithog.
Roedden nhw hefyd yn eu hysgogi i annog staff i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg gyda chymorth Swyddfa’r Post, bod ffurflenni Cymraeg mor amlwg ac mor hawdd i’w derbyn â rhai Saesnseg, a bod cwsmeriaid sy’n dewis defnyddio’r Gymraeg yn cael eu parchu.
Mae’r Gymdeithas yn dweud eu bod nhw’n dal i aros am ymateb.
“Mae’r driniaeth o’r iaith gan Swyddfa’r Post yn gwbl annerbyniol – mae angen iddyn nhw ateb am y diffygion difrifol hyn,” meddai Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg gyda Chymdeithas yr Iaith.
“Ond mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu hefyd – ers 2011, mae gan weinidigion Cymru’r grym i osod dyletswyddau iaith statudol ar y cwmni.
“60 mlynedd ers protest gyntaf Cymdeithas, i fynnu gwasanaeth Cymraeg yn Swyddfa’r Post Aberystwyth rydym yn galw ar y Llywodraeth i gymryd camau cadarn ar frys fel gall pobol ar lawr gwlad gael hawliau iaith sylfaenol a derbyn gwasanathau teg gan gwmni enfawr Swyddfa’r Post o’r diwedd.”