Mae arweinydd Catalwnia yn dweud bod angen dechrau ail gam annibyniaeth yn ystod 2024.
Daeth sylwadau Pere Aragonès yn ystod ei anerchiad Nadolig ar Ddydd Sant Esteve (Dydd San Steffan) ddydd Mawrth (Rhagfyr 26).
Dywed fod yn rhaid diwygio’r gyfraith amnest a’i “gweithredu’n llawn” er mwyn galluogi’r rhai adawodd y wlad yn dilyn refferendwm 2017 i ddychwelyd.
“Rhaid mai 2024 yw’r flwyddyn pan ydyn ni’n dechrau ail gam y broses negodi â Sbaen, lle mae’n rhaid bod Catalwnia’n gallu penderfynu ar ei dyfodol yn rhydd,” meddai.
Ei flaenoriaeth yn ystod y flwyddyn i ddod, meddai, yw dod i gytundeb â Llywodraeth Sbaen ar system drethi newydd i Gatalwnia, gan “roi terfyn ar ddiffyg ariannol annioddefol” sy’n “amddifadu” Catalwnia o adnoddau i gryfhau iechyd ac addysg, cefnogi pobol hunangyflogedig, gweithwyr ac entrepreneuriaid, neu i gefnogi pobol sy’n ddibynnol ar eraill ac i frwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd.
Llwyddiannau a heriau
Mae Pere Aragonès hefyd yn galw am “ymrwymiad” gan y pleidiau eraill yng Nghatalwnia i gymeradwyo’r Gyllideb ar gyfer 2024.
Cafodd Cyllideb 2023 ei phasio ym mis Mawrth.
Ond dydy Cyllideb 2024 ddim wedi cael ei phasio hyd yn hyn.
Yn y cyfamser, mae Catalwnia’n wynebu’r “sychder mwyaf dwys erioed” yn y wlad.
Dywed y llywodraeth eu bod nhw wedi ymrwymo i ddatrys y sefyllfa sydd eisoes wedi cael cryn effaith ar ffermwyr.
Er mwyn ei datrys, bydd “gofyn am ymdrech gan weddill y gymdeithas”, meddai Pere Aragonès, sydd wedi cyhoeddi buddsoddiad yn y dyfodol mewn isadeiledd dŵr er mwyn bod yn “fwy gwydn” wrth wynebu newid hinsawdd.
Mae Pere Aragonès hefyd wedi tynnu sylw at ganlyniadau profion addysg gwael.
Dywed fod ysgolion yn wynebu heriau o ganlyniad i’r canlyniadau PISA diweddaraf, gan ddweud mai “plant ac ieuenctid yw dyfodol y wlad”.
Ymhlith prif lwyddiannau Catalwnia eleni, meddai, mae:
- trosglwyddo system reilffordd Rodalies yn llawn
- trosglwyddo grym dros incwm sylfaenol wedi’i dargedu
- hwb i’r Gatalaneg, sydd wedi cael mwy o statws yng Nghyngres Sbaen, ac sydd ar y ffordd tuag at statws swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd
“Wrth edrych yn ôl, gallwn ni deimlo boddhad fel gwlad gyda’r holl gynnydd sydd wedi’i wneud,” meddai Pere Aragonès.
“Dylai hynny roi’r hyder, y nerth a’r argyhoeddiad i ni i oresgyn yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu.”