Mae Hufenfa De Arfon yn dathlu eu blwyddyn orau erioed, gyda 97 o wobrau i gyd yn 2023.

Ers iddyn nhw lansio hysbyseb deledu Caws Dragon Bob Dydd Bob Ffwrdd ym mis Mai, a llwyddo i dorri i mewn i farchnad laeth yr Unol Daleithiau ym Mehefin, mae’r cwmni llaeth cydweithredol mwyaf blaenllaw yng Nghymru, sydd dan berchnogaeth ffermwyr, wedi mynd o nerth.

Fe enillon nhw wobrau di-ri yn y Gwobrau Caws Rhyngwladol, Sioe Sir Caer, Sioe Swydd Efrog, Sioe Canol Gwlad yr Haf, a Sioe Llanelwedd.

Roedd 40 o’r 97 o wobrau’n rhai aur, ac enillodd Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw y Caws Gorau, gyda Menyn Hallt Dragon yn ennill gwobr y Menyn Gorau yn Sioe Llanelwedd.

Ar ôl y Sioe honno, bu’r hufenfa’n fuddugol yn y Great Taste Awards, gan hawlio dwy seren am eu Menyn Hallt Dragon, ac un seren yr un am eu Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw a Chaws Dragon Emerald Wedi’i Wneud â Llaw.

Yn y Gwobrau Caws Byd-eang, llwyddon nhw i ennill pymtheg gwobr – o Aur i Efydd – am amrywiaeth eang o’u cynnyrch, o Double Gloucester, Caws Braster Isel i’r Caws Llysieuol Gorau gyda’u Caws Dragon Ruby Wedi’i Wneud â Llaw.

‘Diolch’

“Hoffem ddiolch i’n holl staff, o gynhyrchu, i weinyddu, i’n ffermwyr-aelodau,” meddai Mark Edwards, Pennaeth Gweithrediadau Hufenfa De Arfon.

“Heb ein tîm cryf ni fyddem yn gallu gwneud y cynhyrchion anhygoel hyn a chael blwyddyn mor gyffrous.

“Rydym yn ymfalchïo mewn defnyddio llaeth Cymreig o’r ansawdd gorau, i gynhyrchu cynnyrch llaeth o’r ansawdd gorau, ac mae’r gwobrau hyn yn arddangos y gwaith gwych rydym wedi’i gyflawni.”

‘Ymroddiad i ansawdd ac arloesedd’

“Mae llwyddiant rhyfeddol eleni’n dyst i’n hymroddiad i ansawdd ac arloesedd,” meddai Shôn Jones, Rheolwr Ansawdd Caws y cwmni.

“Mae ymgais ddi-baid ein tîm i sicrhau rhagoriaeth mewn gwneud caws yn cael ei adlewyrchu ym mhob gwobr rydym wedi’i hennill.

“Mae’r gwobrau hyn nid yn unig yn anrhydeddu ein crefft ond hefyd yn amlygu treftadaeth gyfoethog ac ansawdd eithriadol cynnyrch llaeth Cymreig ar y llwyfan byd-eang.”

Mae modd prynu cynnyrch Dragon ar-lein ewch i wefan Dragon Wales.