Dilma Rousseff, arlywydd Brasil
Mae arlywydd Brasil wedi cyhoeddi “ymosodiad cenedlaethol” ar y mosgito sy’n lledaenu’r feirws, Zika’, gan addo buddugoliaeth yn erbyn y pryfyn y mae ymchwilwyr yn ei feio am nam ar fabanod newydd anedig.

Mae Dilma Rousseff yn dweud fod y gwaith o gael gwared ar ardaloedd bridio’r mosgito Aedes ar y gweill gan luoedd arfog y wlad, ac fe alwodd ar i drigolion y wlad ymuno yn yr ymgyrch o gael gwared ar ardaloedd lle mae dwr yn sefyll, ac ardaloedd o sbwriel.

“Mae’n rhaid i’r llywodraeth, yr eglwysi, y timau pêl-droed, yr undebau llafur… wneud eu rhan er mwyn cael gwared ar y mosgito hwn,” meddai, “ac rwy’n siwr y gallwn ni ennill y frwydr hon.”

Yn ddiweddarach ddoe, fe fu Ms Rousseff ac Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama, yn trafod y mater.

Mae gwyddonwyr ym Mrasil wedi gwneud cysylltiad rhwng y feirws, Zika, a’r cynnydd sydyn sydd wedi bod mewn achosion o microcephaly, lle mae plant yn cael eu geni gyda phennau anarferol o fychan.