Mae arolwg o aelodau’r Eglwys Anglicanaidd yn dangos, am y tro cynta’, fod mwyafrif ohonyn nhw bellach yn cefnogi priodasau un rhyw.
Mae’r arolwg gan YouGov yn awgrymu fod 45% o aelodau Eglwys Loegr yn credu fod priodasau un rhyw “yn iawn”, o gymharu â 37% sy’n credu fod priodasau un rhyw yn “anghywir”.
Barn swyddogol yr Eglwys ydi mai uniad rhwng dyn a dynes ydi priodas, ac fe gafodd cangen o’r eglwys yn yr Unol Daleithiau ei chosbi yn ddiweddar am gefnogi a chynnal priodasau un rhyw.
Mae’r arolwg yn dangos fod mwyafrif o’r aelodau iau o blaid priodasau un rhyw, gyda thua hanner y rheiny dan 55 oed, a thri chwarter y rhai rhwng 25 a 34 oed, o blaid. Dynion dros 55 oed oedd y lleia’ tebygol o gefnogi priodasau un rhyw, gyda dim ond 24% o’u plaid. Roedd hanner menywod o blaid.