Mae’r ddwy ochr cyn waethed â’i gilydd. Dyma’r unig gasgliad synhwyrol mae modd dod iddo wrth weld yr erchyllterau mae’r naill ochr a’r llall yn eu cyflawni yn erbyn ei gilydd yn y Dwyrain Canol ar hyn o bryd.

Mae’r ddwy ochr cyn waethed â’i gilydd yn nes at adref hefyd – o ran agweddau yn y gorllewin tuag at y gwrthdaro rhwng yr Iddewon a’r Palestiniaid.

Ar y naill law, cawn lywodraethau’r gorllewin, a gwleidyddion sefydliadol eraill, yn cyfiawnhau unrhyw ddinistr a lladd gan Lywodraeth Israel. Ar y llaw arall, mae mudiadau radical asgell chwith wedi bod yn gywilyddus o ddiffygiol eu condemniad o’r gyflafan gafodd ei chyflawni gan Hamas.

“Mae gan Israel yr hawl i’w hamddiffyn ei hun” ydi slogan ddiystyr ac ystrydebol llywodraethau’r gorllewin, pan maen nhw’n gwybod yn iawn mai ar ddialedd a dinistr mae holl fryd Llywodraeth Israel. O ran hynny, roedd gan luoedd Israel hawl ddigwestiwn – a digonedd o rym – i rwystro’r ymosodiadau ddechrau’r mis, ac mae eu methiant i wneud hynny yn adlewyrchiad damniol ar eu llywodraeth.

Dylai fod yn amlwg i bawb hefyd mai po fwyaf o bobol y bydd yr Israeliaid yn eu lladd yn eu cyrchoedd milwrol, y lleiaf tebygol y byddan hwythau hefyd o allu byw mewn heddwch yn y dyfodol. Does fawr o amheuaeth mai dyma oedd cymhelliad Hamas, a’u bod yn berffaith hapus i filoedd o Balestiniaid gael eu lladd er mwyn gweld enw Israel yn cael ei bardduo’n rhyngwladol.

Yn eu cefnogaeth ddiamod i Israel, mae gwledydd y gorllewin yn gwrthod pwyso am gadoediad – ac mae’r ffordd maen nhw’n mygu unrhyw farn sy’n galw am hynny yn gywilyddus. Cwbl dwyllodrus ydi sôn am gadoediad fel rhywbeth fyddai’n llyffetheirio Israel rhag amddiffyn ei hun. Does neb yn dweud y dylai ddiarfogi’n llwyr o dan yr amgylchiadau. Ond mae gweld diwedd ar y bomio didrugaredd yn rhywbeth y dylai pawb rhesymol bwyso amdano.

Diffyg hygrededd

Yn anffodus, mae’n fwy anodd rhoi pwysau effeithiol ar ein llywodraethau i ymateb yn fwy synhwyrol oherwydd diffyg hygrededd llawer o’r gwrthwynebwyr.

Ar hyd y blynyddoedd, mae llawer o fudiadau asgell chwith wedi bod mor ffwndamentalaidd eu cefnogaeth i achos y Palestiniaid nes eu bod yn gibddall i unrhyw anfadwaith gaiff ei gyflawni ar eu rhan.

Wrth gwrs fod y Palestiniaid wedi cael eu cam-drin dros y rhan fwyaf o’r ganrif ddiwethaf, ond a oes unrhyw un yn ei iawn bwyll yn credu y gall fod ateb syml i’r broblem?

Ydi’r rheini sy’n protestio dros ryddid i Balesteina yn credu na ddylai Israel fod wedi cael ei sefydlu o gwbl, ac y dylai gael ei diddymu? Os felly, i le’r oedd yr Iddewon oroesodd erchyllterau’r Ail Ryfel Byd i fod i fynd – ac os caiff Israel ei diddymu, pa wledydd fydd yn croesawu’r Iddewon fel ffoaduriaid?

Er hyn, mae safbwynt cwbl ddigyfaddawd rhai sosialwyr uniongred mai’r Palestiniaid sydd â’r unig hawl i wlad Canaan yn rhywbeth y gall rhywun ei ddeall. Yr hyn sy’n gwbl anfaddeuol ydi eu methiant i gydnabod yr echyllterau sy’n cael eu cyflawni yn enw hyn.

Hyd yn oed cyn i Israel ddechrau ar ei chyrchoedd dialedd, ymateb cyffredin iawn gan wleidyddion asgell chwith yng ngwledydd Prydain oedd lled-gollfarnu ymosodiad Hamas cyn rhuthro i gollfarnu gormes y Palestiniaid â chryn dipyn mwy o arddeliad a huodledd.

Mae ymatebion o’r fath yn gwbl druenus ac annigonol.

Mae’r un fath â phe bai rhywun yn methu â chondemnio erchyllterau Auschwitz a Belsen heb deimlo’r angen i ychwanegu sylwadau fel “mae angen coffáu’r miloedd gafodd eu lladd yn Dresden hefyd”, neu feio Cytundeb Versailles am greu’r amodau arweiniodd at dwf Natsīaeth yn yr Almaen.

Ac oedd, roedd gweithred Hamas, er ei bod ar raddfa lawer llai, yr un mor ffiaidd â’r hyn gafodd ei gyflawni gan y Natsïaid. Naīfrwydd llwyr ydi ei phriodoli’n gyfangwbl i’r gormes mae Palestiniaid yn ei ddioddef. Dim ond pobol sy’n ymhyfrydu mewn lladd a chreulondeb sy’n mynd ati’n fwriadol i lofruddio plant a babanod fel y gwnaeth Hamas ddechrau’r mis. Mae unigolion sydd y tu ôl i droseddau enbyd o’r fath yn gyfrifol am eu gweithredoedd waeth beth fo’r achosion.

Prun bynnag, mae modd bod yn sicr nad amddiffyn Palestiniaid mewn unrhyw fodd oedd nod yr ymosodiad. Mi fyddai Hamas wedi gwybod yn iawn mai’r cyfan y byddai’n ei wneud fyddai cythruddo Israel i ladd miloedd o’u pobol.

Agweddau Cymru

Diddorol ydi’r newid llwyr sydd wedi bod yn agwedd y mudiad cenedlaethol yng Nghymru tuag at Israel a Phalesteina dros y blynyddoedd.

Yn draddodiadol, fel yn y rhan fwyaf o enwadau Cristnogol, roedd elfen gref o wrth-Iddewiaeth o dan yr wyneb yn y traddodiad anghydffurfiol Cymraeg. Mae’n debyg mai’r prif reswm pam na ddaeth hyn yn fwy amlwg oedd bod cyn lleied o Iddewon yng Nghymru.

Er hyn, testun edmygedd ac eilun addoliaeth oedd yr Iddewon i lawer iawn o genedlaetholwyr Cymraeg yr ugeinfed ganrif. Yn eu golwg nhw, roedd y genedl fach hon, yn ogystal ag ennill hunanlywodraeth lawn, wedi adfer iaith fu’n farw ers yn agos i 2,000 o flynyddoedd.

Mae’n sicr i adferiad yr Hebraeg fod yn gryn ysbrydoliaeth i ymdrechion i ddiogelu’r Gymraeg gyda chyrsiau iaith Wlpan y kibbutz yn cael eu hefelychu’n helaeth. Does dim amheuaeth fod y feddylfryd fod modd adfer iaith, hyd yn oed ar ôl iddi farw, wedi creu argraff ar lawer o genedlaetholwyr Cymraeg. Er bod rhai ffigurau amlwg fel J.R. Jones yn gwrthod y farn hon, cafodd ei llyncu’n ddigwestiwn gan eraill. O’r herwydd, mae modd dadlau bod y feddylfryd Israelaidd hon wedi arwain at ddyheadau cwbl afrealistig ymhlith llawer o garedigion y Gymraeg, sy’n parhau hyd heddiw.

Beth bynnag am hynny, pylu wnaeth ymlyniad y mudiad cenedlaethol wrth achos Israel dros y blynyddoedd, nes mynd i’r pegwn arall yn llwyr ers degawdau bellach.

Ar lawer ystyr, roedd yn arwydd o aeddfedrwydd bod cenedlaetholwyr Cymru’n sylweddoli bod ochr arall i’r geiniog lle’r oedd Israel yn y cwestiwn. Eto i gyd, prin fod cenedlaetholwyr Cymru at ei gilydd wedi dangos unrhyw annibyniaeth barn wrth ddilyn ‘meddylfryd grwp’ y chwith Brydeinig yn bur slafaidd ar fater Palesteina.

Nid yw’n or-ddweud chwaith i honni bod achos Palesetina ac atgasedd at Israel yn ymylu ar fod yn obsesiwn i ambell wleidydd o fewn Plaid Cymru, yn ogystal â’r Blaid Lafur, dros y blynyddoedd.

Er hyn, roedd cynnig gan Mabon ap Gwynfor yn y Senedd yr wythnos yma yn galw am gadoediad yn gam cadarnhaol a mwy cytbwys ymlaen, gan ei fod yn cydnabod yn glir yr angen i rwystro’r erchyllterau gan y ddwy ochr. Gobeithio y bydd Senedd Cymru yn dilyn esiampl llywodraethau Iwerddon a’r Alban ar y mater.

Ymyrraeth ryngwladol

Yn y pen draw, wrth gwrs, mi fydd angen llawer mwy nag apeliadau am gymod cyn y cawn heddwch y Dwyrain Canol.

Mi fydd yn rhaid wrth raddau helaeth iawn o ymyrraeth ryngwladol er mwyn i hynny ddigwydd.

Yn ogystal â chael gwared ar arweinwyr Hamas, mi fydd angen mesurau llym hefyd i leihau grym Llywodraeth Israel.

Ar hyd y blynyddoedd, mae’r Israeliaid wedi ethol arweinwyr cwbl anaddas ac analluog i’w llywodraethu. Maen nhw wedi methu â chadw eu pobol eu hunain yn ddiogel ac wedi gormesu eu cymdogion. Maen nhw’n sicr o wneud pethau’n waeth wrth orymateb mewn modd cwbl anghymesur i’r ymsodiad diwethaf.

Yn hytrach na dadlau’r hawl i Israel amddiffyn ei hun, dylai’r gwledydd sy’n ei chefnogi sylweddoli nad ydi ei llywodraeth bresennol yn ddigon cyfrifol i allu gwneud hynny.

Ni fydd dim byd ond cyflafan ar ôl cyflafan yn y Dwyrain Canol tra bydd Netanyahu a Hamas yn dal mewn grym. O’r herwydd, dylai unrhyw gefnogaeth i Lywodraeth Israel fod yn amodol ar iddyn nhw ddewis prif weinidog mwy cymodlon a rhesymol yn ei le – er mwyn lles yr Iddewon eu hunain yn ogystal â phobol eraill.

Unig obaith y rhan gythryblus hon o’r byd ydi cael y gwladwriaethau a’r carfanau yn ddarostyngedig i ryw fath o gyfundrefn ryngwladol, o bosibl o dan nawdd y Cenhedloedd Unedig. Mae’r cyfan yn sicr yn dangos yr angen am rymuso’r Cenhedloedd fel ei fod yn gallu ymyrryd yn effeithiol i rwystro’r fath o gyflafan sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Anodd gweld gobaith i hynny ddigwydd yn y dyfodol agos, am y rheswm syml nad oes gan ein llywodraethau yr ewyllys gwleidyddol i wneud hynny. A dydi mudiadau uniongred y chwith ddim wedi dangos bod ganddyn nhw’r weledigaeth na’r dychymyg i frwydro dros y math o atebion sydd eu hangen.

Er hyn, byddai meithrin agweddau mwy aeddfed a chytbwys at y sefyllfa ddyrys a chymhleth sydd yn y Dwyrain Canol yn gam cyntaf ymlaen i ni yng ngwledydd democrataidd y Gorllewin.