Ffoaduriaid ar lori yn Calais
Mae gyrwyr lorïau wedi galw ar y llywodraeth i ymyrryd wedi i 50 o ffoaduriaid lwyddo i fynd heibio swyddogion diogelwch cyn mynd ar fferi yn Calais.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Gyrwyr Lorïau mai hwn yw’r digwyddiad diweddaraf mewn cyfres yn ymwneud â ffoaduriaid yn y porthladd.

Ychwanegodd nad oes unrhyw un yn ymdrechu i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Mae’r digwyddiad diweddaraf hwn yn y penawdau, ond does neb yn adrodd am yr achosion niferus o ymosodiadau a bygythiadau yn erbyn ein gyrwyr Prydeinig bob dydd gan eu bod nhw, yn siomedig iawn, yn cael eu trin fel digwyddiadau bob dydd erbyn hyn.

“Mae’n hen bryd i’r awdurdodau gydnabod ac ateb ein galw ar i’r fyddin Ffrengig ddiogelu’r porthladd a’r llwybrau tuag ato.”

Roedd y digwyddiad wedi achosi cryn oedi yn Calais am ddwy awr a mwy.