Michael Fallon
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn, Michael Fallon wedi galw ar Heddlu Llundain i ymddiheuro am y ffordd y gwnaethon nhw drin pennaeth y lluoedd arfog, yr Arglwydd Bramall yn ystod ymchwiliad i honiadau o gam-drin plant.

Dywedodd Fallon fod “y boen fwyaf” wedi’i hachosi i’r Arglwydd Bramall wedi iddo gael ei gyhuddo o fod yn rhan o gylch o bobol oedd yn cam-drin plant.

Ond ni chafodd achos ei ddwyn yn erbyn y dyn 92 oed oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth i’w erlyn.

Ym mhapur newydd y Sunday Times, dywedodd Michael Fallon: “Mae ar rywun, yn rhywle, ymddiheuriad go iawn i’r Arglwydd Bramall am achos a gafodd ei drin yn wael… Mae’n amlwg iddo gael ei drin yn eithriadol o wael.

“Mae’r achos ei hun yn ymddangos fel pe bai wedi’i drin yn drwsgl er mwyn achosi’r boen fwyaf i’r cadlywydd, ac mae ar rywun, yn rhywle, ymddiheuriad iddo fe.”

Mae’r diffyg tystiolaeth yn erbyn yr Arglwydd Bramall wedi codi cwestiynau am yr honiadau a gafodd eu gwneud gan ddyn o’r enw ‘Nick’.

Dywed arbenigwyr fod yr honiadau’n debyg iawn i’r rheiny a gafodd eu gwneud gan unigolyn yn erbyn Jimmy Savile.