Mae disgwyl y bydd rhai o brif ddinasoedd America o dan droedfeddi o eira y penwythnos yma.

Daw’r rhybudd wrth i rai o’r stormydd eira gwaethaf ers 100 mlynedd gychwyn taro taleithiau dwyreiniol y wlad.

Mae miloedd o deithiau awyrennau wedi cael eu canslo, a saith talaith wedi cyhoeddi stad o argyfwng.

“Gallai’r storm eira fod yn hynod beryglus ac effeithio ar fwy na 50 miliwn o bobl,” meddai Louis Uccellini, cyfarwyddwr gwasanaeth tywydd America.

Mae disgwyl y bydd dros ddwy droedfedd o eira’n disgyn yn Washington DC a Baltimore a thros droedfedd yn ninas Efrog Newydd.

Y taleithiau i gyhoeddi stad o argyfwng yw Tennessee, Gogledd Carolina, Virginia, Maryland, Pennsylvania, District of Columbia a New Jersey, ond mae pobl cyn belled i’r de ag Atlanta, Georgia, yn cael eu rhybuddio i aros adref.