Mae grŵp newydd trawsbleidiol wedi cael ei ffurfio er mwyn ymgyrchu dros i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Grassroots Out yn cynnwys Aelodau Seneddol Ceidwadol, Llafur, Ukip ac o’r DUP.

Hwn yw’r trydydd grŵp sydd wedi cael ei ffurfio i ymgyrchu dros bleidlais i adael yn y refferendwm sy’n debygol o gael ei gynnal eleni.

Mae’r ddau grŵp arall, Vote Leave a Leave.EU wedi bod yng ngyddfau ei gilydd dros y misoedd diwethaf wrth frwydro dros yr hawl i gael eu cydnabod fel llais swyddogol yr ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r grŵp newydd o’r farn fod y ddwy garfan arall yn ymwneud yn ormodol â gwleidyddiaeth plaid ac yn canolbwyntio gormod ar Lundain.

Lansio

Fe fydd Grassroots Out yn lansio’u hymgyrch yn swydd Northampton heddiw, gydag areithiau gan Tom Pursglove (AS Ceidwadol Corby a Dwyrain Swydd Northampton), Kate Hoey (AS Llafur Vauxhall), Sammy Wilson (AS DUP Dwyrain Antrim) a Nigel Farage, arweinydd Ukip.

“Bydd y lansiad yn ddigwyddiad hanesyddol, yn dod â gwrthwynebwyr gwleidyddol at ei gilydd, sy’n barod i roi eu gwahaniaethau o’r neilltu er lles pawb,” meddai Tom Pursglove. “Rydym yn unedig yn ein hymwymiad i weithio ar lawr gwlad i gael y Deyrnas Unedig allan o’r Undeb Ewropeaidd.”

Wrth ymateb, dywedodd James McGory, prif lefarydd yr ymgyrch o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, Britain Stronger in Europe:

“Mae’n adlewyrchiad damnio ar Vote Leave a Leave.EU fod yn rhaid ffurfio ymgyrch arall eto fyth gyda’r nod penodol o estyn allan i bleidleiswyr.”