(llun: PA)
Mae’r cwmni rhyngrwyd anferthol Google wedi cytuno i dalu £130 miliwn i Drysorlys Prydain am arian sydd wedi bod yn ddyledus ers 2005.
O hyn ymlaen fe fydd y cwmni, sydd â’i bencadlys yn America, yn talu treth “sy’n seiliedig ar refeniw gan hysbysebwyr o Brydain ac sy’n adlewyrchu maint a ehangder ein busnes ym Mrydain.”
Daw hyn ar ôl blynyddoedd o feirniadaeth ar cyn lleied o dreth y mae Google a chwmnïau rhyngwladol eraill wedi bod yn ei dalu ym Mhrydain.
Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi – sy’n gyfrifol am gasglu trethi i’r Trysorlys – wedi bod yn archwilio cyfrifon Google ers 2013.
Ers mis Ebrill y llynedd mae’r llywodraeth wedi cyflwyno mesurau newydd i gyfyngu ar allu cwmnïau rhyngwladol i dynnu eu henillion allan o Brydain er mwyn osgoi trethi.
Mae disgwyl i’r mesurau hyn godi £3.1 biliwn mewn trethi dros y blynyddoedd nesaf.