Cafodd strydoedd yng nghanol tref Aberystwyth eu rhwystro am gyfnod y prynhawn yma wrth i lori yn cario tyrbin wynt anferth fynd yn styc.
Yn ôl un llygad dyst, Heledd Wyn, roedd y lori o Wlad Pwyl ac fe welwyd gyrrwr y cerbyd oedd yn ei harwain yn edrych ar fap i weld ble roedden nhw’n mynd.
Roedd y cerbyd, oedd o leiaf 50 troedfedd o hyd, yn teithio i lawr rhiw Penglais tuag at ganol y dref pan aeth i drafferthion wrth geisio troi i mewn i Stryd Thespian.
Bu hynny’n gyfrifol am greu tagfeydd hir yng nghanol y dref, wrth i’r lori geisio symud o’r ffordd, ond mae’n debyg bod y cerbyd bellach wedi dianc o’r ddalfa.
Dyw hi ddim yn glir eto i ble roedd y lori yn teithio gyda’r tyrbin gwynt, ond yn ôl adroddiadau roedd yn mynd i gyfeiriad Llanbedr Pont Steffan.