Bydd y “criw masnach mwyaf erioed o Gymru” yn teithio i Dubai dros y penwythnos er mwyn cymryd rhan mewn ffair nwyddau iechyd sydd ymysg y mwyaf o’i math yn y byd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai 38 o unigolion o 19 cwmni o’r sector Gwyddorau Bywyd yn teithio i’r Dwyrain Canol ar gyfer y digwyddiad, ond na fyddai’r Gweinidog Economi Edwina Hart yn rhan o’r ddirprwyaeth.

Ymysg y cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru fydd yn cael eu harddangos yn Dubai bydd offer monitro ffetws soffistigedig, uwch dechnolegau patholeg y celloedd a chyfarpar llawfeddygol untro.

Mae disgwyl i’r arddangosfa Arab Health ddenu dros 4,000 o gwmnïau a fydd yn arddangos eu dyfeisiau diweddaraf i fwy na 130,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol o 163 o wledydd.

‘Gwerth £1bn i Gymru’

Dywedodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru y byddai’r ffair yn gyfle i fusnesau o Gymru geisio manteisio ar y cyfleoedd fyddai ar gael ym marchnad y Dwyrain Canol.

“Yr Emiraethau Arabaidd Unedig yw ein trydedd farchnad allforio fwyaf, ac mae’n werth mwy na £1biliwn i economi Cymru,” meddai Edwina Hart.

“Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle cyffrous ac unigryw i gwmnïau o bob maint gynyddu eu gweithgarwch allforio drwy gysylltu â busnesau yn y sector Gwyddorau Bywyd o bedwar ban byd.

“Mae’n ddigwyddiad allweddol i’r sector ac fel Llywodraeth sydd o blaid byd busnes, rydym yn rhoi cymorth i gwmnïau naill ai arddangos yno neu i fynd fel rhan o daith fasnach. Mae’n braf iawn gweld cymaint o bobl yn manteisio ar y cyfle.

“Mae’r farchnad gofal iechyd yn y Dwyrain Canol yn tyfu’n gyflym a disgwylir iddi fod yn werth $60 biliwn erbyn 2025. Mae’n un o’r ychydig ranbarthau yn y byd sy’n wynebu cynnydd yn y galw sydd, yn ei dro’n creu cyfleoedd busnes newydd yn y sector.”