Nathan Gill
Fe allai rhai gwleidyddion, gan gynnwys Nathan Gill o UKIP, gael eu gwahardd rhag sefyll yn etholiadau’r Cynulliad oherwydd rheolau newydd sydd ar fin cael eu cyflwyno.

Fe gadarnhaodd y Comisiwn Etholiadol wrth golwg360 eu bod yn y broses o ddiweddaru eu rheolau ar gyfer pwy sydd yn gallu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiadau ym mis Mai.

Byddai un o’r rheolau newydd fodd bynnag yn gwahardd unrhyw un sydd eisoes yn Aelod Seneddol Ewropeaidd (ASE) rhag ymgeisio i gael eu hethol i’r Cynulliad.

Ac fe allai hynny effeithio ar Nathan Gill os yw’r ASE UKIP, fel y disgwyl, yn bwriadu ymgeisio dros etholaeth ar Ynys Môn yn ogystal â rhanbarth Gogledd Cymru yn etholiadau’r Cynulliad.

 Ildio’u lle

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol y byddai’n rhaid i “unrhyw ASE oedd eisiau sefyll yn etholiadau’r Cynulliad ildio’u sedd yn Senedd Ewrop cyn cyflwyno’u cais” i fod yn ymgeisydd ar gyfer Bae Caerdydd.

Mae’n debyg bod y rheol newydd yn deillio o gyfarwyddiadau sydd wedi dod o’r Undeb Ewropeaidd, sydd yn dweud na all unigolion fod yn ASE ac Aelodau Seneddol yn eu gwledydd ar yr un pryd.

Dyw’r Comisiwn Etholiadol heb gadarnhau eto fodd bynnag pam bod y gwaharddiad yn cael ei hymestyn i gynnwys etholiadau’r Cynulliad yng Nghymru a Senedd yr Alban.

Ffrae yn UKIP

Oni bai am Nathan Gill does dim ASE arall o Brydain wedi mynegi diddordeb cyhoeddus mewn sefyll i gael eu hethol i’r Cynulliad ar hyn o bryd.

Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru llynedd y byddai’n well ganddo fod yn Aelod Cynulliad nag Aelod Seneddol Ewropeaidd, ond nad oedd o wedi gwneud penderfyniad ynglŷn â’i ddyfodol gwleidyddol eto.

Mae UKIP wedi dweud wrth golwg360 eu bod yn ymchwilio i oblygiadau’r canllawiau newydd.

Fe gododd ffrae yn ddiweddar ymysg y blaid ynglŷn ag awydd rhai o’i haelodau o du allan i Gymru i sefyll yn yr etholiadau i Fae Caerdydd ym mis Mai.