Alun Ffred Jones
Dydi hi ddim yn dderbyniol fod Cyngor Gwynedd yn dal i ddisgwyl am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru y bydd arian yn cael ei roi tuag at amddiffynfeydd llifogydd yn Nhalybont ger Bangor, yn ôl yr AC lleol.
Cafodd y pentref ei effeithio’n wael gan lifogydd cyn y Nadolig, gyda ffordd gyfagos yr A55 hefyd dan ddŵr am gyfnod gan achosi trafferthion i deithwyr.
Ar ymweliad ar ddechrau’r flwyddyn fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod £1.5m ar gael i wneud gwaith atal llifogydd yno, a’u bod wedi dod i gytundeb â thirfeddianwyr lleol i adeiladu peipen fyddai’n dargyfeirio dŵr.
Ac mae’r Aelod Cynulliad Alun Ffred Jones wedi galw ar y llywodraeth i beidio â llusgo’u traed ar y mater ymhellach, fel bod y gwaith adeiladu’n gallu dechrau mor fuan â phosib.
Ymrwymiad – ond dim amserlen
Cafodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant ei holi gan Alun Ffred Jones yn y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn y Cynulliad yr wythnos hon ynglŷn â phryd fyddai’r cyllid ar gael.
Awgrymodd y Gweinidog fodd bynnag nad oedd Llywodraeth Cymru’n gwybod eto a fyddai’r arian yn dod allan o gyllidebau’r flwyddyn ariannol bresennol, neu’r un nesaf.
“Rydyn ni’n ymrwymo’n llawn i ariannu’r cynllun unwaith byddwn ni’n gwybod beth yw’r gost,” meddai Carl Sargeant wrth y pwyllgor.
“Os yw’n dod mewn ar gyfer eleni fe fydd yn rhaid i ni ddod o hyd i’r cyllid ar ei gyfer.”
‘Siomedig iawn’
Dyw hynny ddim yn ddigon i AC Arfon, fodd bynnag, sydd yn dweud na fydd Cyngor Gwynedd yn gallu bwrw ymlaen â’r gwaith er mwyn amddiffyn rhag llifogydd oni bai eu bod nhw’n derbyn y cadarnhad ysgrifenedig gan y llywodraeth.
“Dw i’n siomedig iawn bod yna ddim cyhoeddiad ffurfiol wedi’i wneud,” meddai Alun Ffred Jones wrth golwg360.
“Ar bron bob un cynllun arall lle mae’r llywodraeth yn gwario arian, maen nhw’n barod iawn i ddweud: ‘rydan ni’n rhoi miliwn neu ddwy fan hyn neu fan draw’.
“[Yn y Pwyllgor Amgylchedd] fe roddodd Carl Sargeant addewid bod yr arian yn mynd i ddod.
“Ond cyn y gall Cyngor Sir roi tendars allan, sydd yn golygu bod y gwaith yn cael ei orffen yn gynt, mae’n rhaid iddyn nhw gael llythyr [yn cadarnhau’r cyllid]. Dydi’r llywodraeth ddim yn gweithio ar bobl yn gwneud addewidion, dim ots lle mae o.”
Ffynhonnell yr arian
Does dim cadarnhad wedi bod chwaith ynglŷn â pha adran fydd yn cyllido’r gwaith yn Nhalybont, rhywbeth sydd hefyd wedi ychwanegu at yr oedi yn ôl Alun Ffred Jones.
“Yr unig beth dw i eisiau ydi bod y gwaith yn cael ei wneud ar gyfer y bobl,” meddai.
“Mi fydda i’n gofyn iddyn nhw gadarnhau’n ffurfiol o ble mae’r arian yn dod, achos dw i ddim yn gwybod pwy sy’n mynd i ariannu fo rŵan [yr adran Cyfoeth Naturiol neu’r adran Drafnidiaeth], jyst eu bod nhw wedi gwneud addewid cyffredinol y bydd yr arian ar gael.”
‘Wrthi’n prosesu’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai Cyngor Gwynedd yn cael cadarnhad ynglŷn â’r arian o fewn yr wythnos nesaf.
“Rydyn ni wedi gwneud £3.3miliwn o arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gwneud gwaith brys ar reoli risg llifogydd,” meddai’r llefarydd.
“Rydyn ni wedi derbyn ceisiadau gan 15 awdurdod lleol. Rydyn ni yn y broses o asesu’r ceisiadau hyn ac yn bwriadu gadael i bob awdurdod lleol wybod canlyniad eu cais erbyn diwedd y mis.”