Mae Prif Weinidog Ffrainc wedi rhybuddio bod nifer y ffoaduriaid sy’n cyrraedd Ewrop yn “berygl difrifol” i ddyfodol yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Cododd Manuel Valls bryderon y gallai cymdeithas Ewrop gael ei “thanseilio’n gyfan gwbl” oni bai bod yr UE yn cyflwyno rheolau llymach ar ei ffiniau allanol.

“Gallai ddiflannu, wrth gwrs, – y prosiect Ewropeaidd, nid Ewrop ei hun, nid ein gwerthoedd, ond y cydsyniad sydd gennym o Ewrop,” meddai.

Dywedodd hefyd fod angen dod â rhyfelpedd Syria ac Irac i ben, dinistrio’r grŵp brawychol IS a sefydlu proses wleidyddol newydd yn Syria i ddatrys yr argyfwng. Mae’n cydnabod y bydd hyn yn “cymryd amser”.

Blair yn galw am bresenoldeb milwrol Ewrop

Ac mae cyn-Brif Weinidog Prydain wedi awgrymu y dylai Ewrop gynyddu ei bresenoldeb milwrol yn y frwydr yn erbyn y Wladwriaeth Islamaidd (IS) i geisio datrys y broblem.

Mewn cyfweliad yn y Fforwm Economaidd Rhyngwladol yn y Swistir, dywedodd Tony Blair fod nifer y ffoaduriaid sy’n teithio i Ewrop yn “her wleidyddol anodd iawn”.

Dywedodd ei fod yn credu y dylai’r UE ddefnyddio ei “allu milwrol” mewn ffordd fwy effeithiol gan ychwanegu fod angen taclo’r argyfwng yn Syria i ddatrys y broblem ffoaduriaid sy’n pwyso ar Ewrop.

“Mae problem am y niferoedd – faint o bobol gall Ewrop eu derbyn? – ond mae problem ynghylch diogelwch hefyd – a allwn fod yn sicr o bwy sy’n dod i mewn?” meddai.

Gwrthod lloches ddim yn ateb

Wrth ymateb i sylwadau Manuel Valls, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron, nad gwrthod lloches i’r ffoaduriaid yw’r ateb.

“Mae’n bosib mai hyn fydd her fwyaf Ewrop erioed ond mae’n un sy’n rhaid i ni ei hwynebu gyda’n gilydd drwy greu llwybrau diogel a chyfreithiol i ffoaduriaid,” meddai.

Dengys y ffigurau diweddaraf bod nifer y bobol sydd wedi ceisio am loches yn yr UE dros y flwyddyn ddiwethaf wedi pasio 1.25 miliwn.