Mae sancsiynau a gafodd eu rhoi ar Iran gan Ewrop a’r Unol Daleithiau wedi cael eu codi yn dilyn cytundeb niwclear gyda’r Cenhedloedd Unedig.

Dywedodd y Cenhedloedd Unedig fod Iran wedi bod yn cydymffurfio ag amodau’r sancsiynau ac y dylid eu codi.

Bellach, mae gan Iran fynediad i hyd at $100 biliwn (£70.4bn) o asedau unwaith eto.

Mae’r cytundeb wedi’i ganmol gan Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, John Kerry a diplomyddion eraill yn Iran a’r Undeb Ewropeaidd.

Bwriad y sancsiynau yn y lle cyntaf oedd atal Iran rhag datblygu arfau niwclear.

Dywedodd John Kerry fod y cytundeb yn arwydd o “fyd mwy diogel”.

Daw’r cytundeb wedi i Iran ryddhau pedwar o Americaniaid oedd yn cael eu caethiwo.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd fod y cytundeb yn dangos bod modd “datrys y materion mwyaf cymhleth a dod o hyd i atebion ymarferol sy’n cael eu cyflwyno’n effeithiol”.