Mae’r Llengfilwyr Prydeinig yn galw ar Lywodraeth Prydain i wneud mwy i helpu cyn-filwyr sy’n dioddef o salwch sy’n deillio o wasanaethu adeg Rhyfel y Gwlff.

Yr amcangyfrif yw y gallai hyd at 33,000 o gyn-filwyr fod wedi cael eu heffeithio yn y tymor hir.

Dywed y Llengfilwyr Prydeinig nad ydyn nhw’n gwybod o hyd sut i effeithio’r ystod eang o salwch sy’n parhau i effeithio ar gyn-filwyr.

Mae blinder, poen yn y cyhyrau, problemau gwybyddol a phroblemau stumog ymhlith y cyflyrau mwyaf cyffredin ymhlith cyn-filwyr, ac mae’r Llengfilwyr yn galw ar Lywodraeth Prydain i ymchwilio i’r sefyllfa.

Blaenoriaeth i’r Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran y Llengfilwyr Prydeinig: “Rydym yn gwybod fod iechyd cyn-filwyr Rhyfel y Gwlff yn parhau i fod yn faes pwysig i’r Llywodraeth, a dyna pam fod y Llengfilwyr yn galw am fuddsoddi mewn ymchwil fel y gallwn ni ddeall sut i wella bywydau’r sawl sydd wedi cael eu heffeithio.”

Ychwanegodd eu bod nhw’n galw am rannu canlyniadau ymchwil yn yr Unol Daleithiau gyda chyn-filwyr yng ngwledydd Prydain.

Cymerodd 53,462 o filwyr ran yn Operation Desert Storm yn Rhyfel y Gwlff yn 1991, a hwnnw’n gyrch oedd yn ymateb i Irac yn ymosod ar Kuwait.

Mae cyn-filwyr a gymerodd ran yn y rhyfel ddwy neu dair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef o salwch na chyn-filwyr eraill.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod nhw wedi ariannu ymchwil i salwch sy’n deillio o Ryfel y Gwlff.