Angela Merkel, Canghellor yr Almaen
Mae miloedd o brotestwyr yn Stuttgart yn ne-orllewin yr Almaen wedi bod yn dangos eu gwrthwynebiad i’r hiliaeth a’r trais yn y wlad yn erbyn ceiswyr lloches a mewnfudwyr.

Cafodd y brotest ei threfnu gan eglwysi, undebau a grwpiau eraill yn y ddinas.

Fe wnaeth yr Almaen gofrestru bron i 1.1 miliwn o geiswyr lloches y llynedd, a bu ymosodiadau rheolaidd ar gartrefi mewnfudwyr.

Mae tensiynau wedi cynyddu’n ddiweddar ar ôl cannoedd o ymosodiadau ar ferched yn Cologne a dinasoedd eraill – gyda mewnfudwyr yn cael y bai.

Mae’r heddlu’n amcangyfrif bod tua 7,000 wedi cymryd rhan yn y brotest heddiw.

Wrth annerch y protestwyr, meddai’r esgob Protestanaidd, Frank Otfried July: “Boed yn ymosodiadau llwfr o gynnau tän ar gartrefi ceiswyr lloches, tramorwyr yn cael eu herlid neu drais ar sail rhyw, rydym yn dangos y cerdyn coch iddo.”