Mae gweinidog tramor Iran yn ffyddiog bod asiantaeth atomig y Cenhedloedd Unedig ar fin cadarnhau bod ei wlad wedi cyflawni ei holl ymrwymiadau o dan gytundeb hanesyddol â rhai o brif bwerau’r byd.

Mae cyfres o gyfarfodydd wedi cychwyn yn Vienna heddiw i asesu’r graddau y mae Iran wedi gweithredu’r cytundeb rhyngwladol a wnaed ar 14 Gorffennaf y llynedd i gyfyngu ar ei rhaglenni niwclear.

“Bydd yr holl sancsiynau gormesol yn erbyn Iran yn dod i ben heddiw,” meddai Mohammad Javad Zarif.

Byddai cadarnhad gan yr Asiantaeth Ryngwladol Ynni Atomig (IAEA) yn golygu dileu gwaharddiadau sy’n costio tua £70 biliwn i Iran.

Trafodaethau

Mae Zarif a phennaeth polisi tramor yr Undeb Ewropeaidd, Federica Mogherini eisoes wedi cyfarfod ym mhencadlys yr Asiantaeth yn Vienna y bore yma, a bydd Ysgrifennydd Gwladol America, John Kerry, yn ymuno â nhw’n ddiweddarach yn y dydd.

Mae Iran yn mynnu bod ei holl weithgareddau niwclear yn rhai heddychlon, ond o dan y cytundeb ar 14 Gorffennaf, mae wedi cytuno i gyfyngu ar raglenni y gallai eu defnyddio i wneud arfau niwcliar. Yn gyfnewid am hyn, cafodd addewid gan wledydd eraill y byddai gwaharddiadau yn ei herbyn yn cael eu codi.

Rhan o’r cytundeb yw bod yr IAEA yn goruchwylio gweithgareddau niwclear Iran am 15 mlynedd, gyda’r dewis o ail-gyflwyno gwaharddiadau petai Tehran yn torri ei ymrwymiadau.