Leanne Wood (o wefan Plaid Cymru)
Bydd pob cefnogaeth i Blaid Cymru yn etholiad y Cynulliad ar 5 Mai yn “bleidlais o hyder ym mhotensial Cymru i lwyddo” yn ôl yr arweinydd Leanne Wood.
Gyda’r Blaid Lafur a’r Blaid Geidwadol ymhell ar y blaen iddi ym mhob arolwg barn, dywed Leanne Wood na ellir ymddiried yn y Ceidwadwyr i lywodraethu Cymru.
“Mae sefyllfa fregus coffrau’r Deyrnas Gyfunol yn dangos na ellir ymddiried yn y Ceidwadwyr gydag economi Cymru,” meddai.
“Mae eu polisi economaidd yn dangos eu bod yn barod i chwarae gêm beryglus gyda bywoliaethau pobl.
“Mae economi Cymru eisoes ar i lawr diolch i ddiffyg uchelgais a chreadigrwydd llywodraeth Lafur Cymru. Ni all Cymru fforddio gadael ei heconomi yn nwylo’r blaid Geidwadol fyddai’n cyflymu’r ras i’r gwaelod.”
Gweledigaeth Plaid Cymru
Wrth amlinellu gweledigaeth Plaid Cymru, meddai:
“Byddai llywodraeth Plaid Cymru yn canolbwyntio ar adfywio’r economi a gwasgaru ffyniant i bob cwr o’r wlad.
“Bydd pleidlais i Blaid Cymru fis Mai yn cynrychioli pleidlais o hyder ym mhotensial Cymru i lwyddo. Tra bod record economaidd y pleidiau eraill yn cael ei diffinio gan dranc, rydym yn benderfynol o ail-sefydlu Cymru fel pwerdy economaidd a diwydiannol sy’n cael ei gydnabod ledled y byd.
“Gyda chynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi’n sylweddol yn ein isadeiledd cenedlaethol, rhoi hwb i fasnach ac allforion Cymreig, a rhoi cefnogaeth ddi-gynsail i’n busnesau bach, mae Plaid Cymru yn cynnig y newid sydd ei angen.”