Archesgob Caergaint, y Parchedicaf Justin Welby (llun: PA)
Dylai’r Pasg ddigwydd ar yr un Sul bob blwyddyn, yn ôl Archesgob Caergaint.

Dywed y Parchedicaf Justin Welby ei fod yn gobeithio gweld dyddiad sefydlog yn cael ei osod ar gyfer y Pasg erbyn yr adeg y bydd yn ymddeol.

Cadarnhaodd y bydd arweinwyr Anglicanaidd yn ymuno mewn trafodaethau ag Eglwys Rhufain a’r eglwysi Uniongred i bennu dyddiad blynyddol.

“Byddwn yn disgwyl i hyn gymryd tua 5 i 10 mlynedd,” meddai wrth siarad ar ôl y cyfarfod o esgobion Anglicanaidd yng Nghaergaint yr wythnos yma.

“Fyddwn i ddim yn disgwyl hyn ynghynt yn rhannol oherwydd mae’n debygol fod y rhan fwyaf o bobl wedi argraffu eu calendrau am y pum mlynedd nesaf.

“Mae gwyliau ysgol a phethau felly yn sefydlog, a hoffwn weld yr un peth yn digwydd i’r Pasg cyn imi ymddeol.”

Ar hyn o bryd, mae Sul y Pasg yn digwydd ar y Sul cyntaf ar ôl y lleuad llawn cyntaf ar ôl cyhydnos y gwanwyn tua 21 Mawrth. O’r herwydd gall ddigwydd ar unrhyw dydd Sul rhwng 22 Mawrth a 25 Ebrill.

Fe fydd Sul y Pasg eleni ar 27 Mawrth, y flwyddyn nesaf fe fydd ar 16 Ebrill ac fe fydd ar 1 Ebrill yn 2018.