Yr Ysgrifennydd `Tremor Philip Hammond (llun: PA)
Mae 600 o ddinasyddion Prydeinig wedi cael eu dal wrth geisio mynd i Syria i ymuno â’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) a grwpiau jihadi eraill ers 2012, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond.

Wrth siarad mewn ymweliad â de Twrci, dywedodd fod amcangyfrif o tua 800 o ddinasyddion Prydeinig wedi llwyddo i fynd i Syria dros y pedair blynedd ddiwethaf, a’r gred yw bod tua’u hanner yn dal i fod yno.

Roedd gwasanaethau cudd Prydain a Twrci wedi llwyddo i rwystro 600 yn  rhagor rhag ymuno â nhw, gyda rhai yn cael eu hatal wrth geisio gadael Prydain ac eraill wrth gyrraedd Istanbul.

Dywedodd fod llwyddiant cynyddol yr awdurdodau wrth rwystro ymladdwyr rhag cyrraedd IS yn ei gadarnle yn Raqqa yn Syrie yn ychwanegu at effeithiolrwydd ymosodiadau o’r awyr ar y grŵp o eithafwyr Islamaidd.

“Mae tystiolaeth fod IS yn ei chael yn anoddi recriwtio i’r brigadau yn Raqqa oherwydd y gyfradd uchel o golledion ymysg ymladdwyr tramor,” meddai.

“Yn gyffredinol mae eu niferoedd ar y ddaear yn denau iawn o ystyried y diriogaeth y maen nhw’n ei dal.”