Jeremy Corbyn, arweinydd y Blaid Lafur (llun: PA)
Byddai llywodraeth Lafur yn gorfodi cwmnïau i dalu cyflogau tecach i’w gweithwyr, yn ôl Jeremy Corbyn.

Wrth annerch cynhadledd y Fabian Society yn Llundain, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur ei fod yn benderfynol o fynd i’r afael ag annhegwch economaidd.

“O holl wledydd y G7, dim ond America sydd â mwy o anghydraddoldeb incwm na’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Dyw anghydraddoldeb tâl ar y raddfa hon ddim yn angenrheidiol nac yn anochel. Nid yn unig mae’n annheg, mae hefyd yn llesteirio twf. Yn ogystal â bod yn decach, mae cymdeithas fwy cyfartal yn gwneud yn wella o ran sefydlogrwydd economaidd a chreu cyfoeth.”

Mae Jeremy Corbyn yn cynnig dwy ffordd o gyflawni hyn.

Un dewis yw gosod ‘cymarebau tâl’ lle byddai uchafswm o wahaniaeth cyflog rhwng y rheini ar y brig a’r rheini yn y swyddi isaf eu tâl mewn unrhyw gwmni.

Dewis arall fyddai gwahardd cwmnïau rhag dosbarthu difidend i’w cyfranddalwyr hyd nes bod eu holl weithwyr yn derbyn cyflog byw.