Lleoliad Burkina Faso yn Affrica, gan Alvaro1984 18 o wefan Wikipedia
Mae gwarchae yn Burkina Faso yng ngorllewin Affrica, lle’r oedd 126 o wystlon yn cael eu dal gan eithafwyr Islamaidd, wedi dod i ben.

Llwyddodd lluoedd Burkina Faso a Ffrainc i adennill rheolaeth o westy moethus yn y brifddinas a oedd wedi cael ei gipio gan eithafwyr Islamaidd neithiwr. Cafodd o leiaf dri o’r herwgipwyr eu lladd.

Roedd grŵp sy’n gysylltiedig ag al Qaeda wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Gan fod milwyr Ffrainc yn gwasanaethu ym Mali, gwlad sy’n ffinio â Burkina Faso, llwyddwyd i gael eu help i gymryd rhan yn y cyrch achub.

Er bod anhrefn gwleidyddol cynyddol wedi bod yn Burkina Faso ers i arlywydd y wlad gael ei ddisodli yn 2014, ychydig iawn o ymosodiadau gan eithafwyr Islamaidd sydd wedi bod yma o gymharu ag yn y ddwy wlad gyfagos, Mali a Niger.