Ar ôl noson o rewi caled yng Nghymru a rhannau helaeth o wledydd Prydain, mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio cerddwyr a modurwyr i gymryd gofal.
Wrth i’r tymheredd blymio dros nos, mae’r tywydd gaeafol wedi arwain at ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio llithrig, gyda haenau cudd o rew o dan eira neu ar rannau gwlyb.
Mae’n debygol o barhau’n rhewllyd drwy’r dydd, ond mae disgwyl i’r rhan fwyaf o Gymru aros yn sych gyda rhai ysbeidiau heulog.
Mae disgwyl i’r tymheredd fod ar ei oeraf – cyn ised â minws 10 gradd C – yn yr Alban dros y penwythnos, lle mae eira hefyd yn debygol ar dir uchel.
Mae’r tywydd gaeafol yn debyg o barhau am rai dyddiau o leiaf – gyda rhagor o gawodydd neu gyfnodau hirach o law, eirlaw ac eira ar y ffordd.