Bu menywod ifanc o bob rhan o Gymru yn ymweld â’r Senedd ddoe (dydd Mawrth, Mawrth 7), ar ôl cael cyfle i gysgodi Aelodau’r Senedd ac edrych ar waith mewnol bywyd gwleidyddol Cymru.

Chwarae Teg, elusen cydraddoldeb rhywedd flaenllaw Cymru, fu’n cynnal prosiect LeadHerShip i fenywod 16-22 oed, er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth o fenywod ym maes arweinyddiaeth yn y dyfodol.

Mae rhai o’r merched ifanc fu’n cymryd rhan yn y diwrnod wedi bod yn lleisio eu barn ynglŷn â Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023. Sefyllfa menywod yn rhyngwladol sydd dan sylw gan Nerys Salkeld, 17 oed, o Gwmbrân.


O ystyried sut mae menywod yn cael eu trin mewn rhai gwledydd yn ddiweddar, mae’n fwy pwysig nag erioed ein bod yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

Roedd sefyllfa menywod mewn gwledydd gwahanol o’r byd wedi cael sylw mawr yn ystod Cwpan y Byd.

Daeth mwy o bobol i sylweddoli gymaint o ragfarn sydd yn Qatar yn erbyn menywod. Yn wahanol i ferched yng Nghymru, maent yn anghyfartal iawn i’r dynion.

Ymhellach, yn rhyfel Wcráin, mae menywod yn cael eu targedu, gyda 45% o fenywod y wlad wedi dioddef trais corfforol, rhywiol a meddyliol.

Ac mae Iran yn nol ar y newyddion wrth i’r llywodraeth yno yn raddol ddileu’r hawliau roedd menywod wedi ei ennill. Mae protestiadau hawliau a rhyddid menywod yn cael eu cynnal oherwydd maen nhw’n cael eu gorfod i wisgo ‘hijabs’ gan y llywodraeth, agwedd gyntefig iawn. Mae protestiadau wedi bod ar y cynnydd ers marwolaeth Jina ‘Mahsa’ Amini tra’n roedd dan warchodaeth heddlu Iran. Mae gwladwriaeth Iran yn parhau i ladd Iraniaid sy’n lleisio eu galwadau am newid, cydraddoldeb a chyfleoedd. Caiff addysg ei dargedu yn y gobaith y bydd merched ddim yn sylweddoli bod eu bywydau yn anghyfartal o’i gymharu gyda merched mewn gwledydd eraill.