Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched (Mawrth 8) yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched, ac mae menter gymdeithasol Antur Waunfawr yng Ngwynedd wedi ymuno yn y dathlu.
Wedi’i sefydlu yn 1984, mae Antur Waunfawr yn fenter gymdeithasol flaengar sy’n cynnig cyfleoedd cyflogaeth, hyfforddiant a llesiant i oedolion ag anableddau dysgu.
Mae Antur Waunfawr yn dathlu ymrwymiad y cwmni i gydraddoldeb er mwyn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Merched drwy rannu straeon rhai o ferched y fenter gymdeithasol.
Fis Gorffennaf y llynedd, rhoddodd Menna Jones y gorau i’w swydd fel Prif Weithredwr Antur Waunfawr, a chamodd Ellen Thirsk i’r adwy.
Ellen Thirsk
Mae Ellen Thirsk yn hanu o Lanuwchllyn yng Ngwynedd, ac mae ganddi gefndir helaeth ym maes iechyd ac adnoddau dynol.
Ar ôl mynychu Ysgol y Berwyn yn y Bala, aeth Ellen yn ei blaen i astudio yng Ngholeg Llandrillo, gan ddechrau ar ei gyrfa yn y sector iechyd.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu’n gweithio fel ysgrifennydd meddygol, a chafodd ei derbyn i’r Cynllun Hyfforddiant Rheoli Busnes.
Ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn gweithio ym maes iechyd, symudodd i weithio ym maes Adnoddau Dynol gyda Thai Eryri.
Ar ôl iddi symud i ardal Caernarfon, roedd Ellen Thirsk wedi clywed am waith Antur Waunfawr ac wedi dyheu ers tro i weithio i’r fenter gymdeithasol.
Roedd hi’n edmygu’r egwyddorion sydd wrth galon eu gwaith, sef empathi, caredigrwydd, cynaladwyedd a chydraddoldeb.
“Roedd yn amlwg i mi fel rhywun o’r tu allan ar y pryd fod gan Antur Waunfawr werth cymdeithasol aruthrol, ac roeddwn i wedi rhoi fy mryd ar gyfrannu at eu gweledigaeth,”
Yn 2007, ymunodd ag Antur Waunfawr fel Rheolwr Adnoddau Dynol.
Mae’n cydnabod fod amgylchiadau personol yn rhan o’i huchelgais i weithio i’r fenter gymdeithasol.
Yn 1997, rhoddodd Rhian, chwaer Ellen, enedigaeth i Carys, plentyn â syndrom Down.
“Mae profiadau personol felly’n agoriad llygad ac yn dylanwadu ar eich byd-olwg,” meddai
“Rydach chi’n sylweddoli bod cydraddoldeb yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb.
“Mae gan bobol wahanol anghenion, ac mae’n rhaid cyfarch yr anghenion hynny.”
Siân Angharad Williams
Mae Siân Angharad Williams o Gaernarfon yn Is-reolwr Iechyd a Llesiant yn Antur Waunfawr.
Mae hi’n mwynhau’n fawr, a datblygodd ei gyrfa dros nifer o flynyddoedd.
Mae hi wedi bod yn ymwneud â gwaith yr Antur ers yn blentyn efo’i nain sydd ymhlith merched yn ei theulu sydd wedi ei hysbrydoli.
“Roeddwn i’n arfer dod i’r Antur yn ferch fach efo Nain, oedd yn gwirfoddoli yma,” meddai.
“Cefais leoliad profiad gwaith yma ym mlwyddyn 10, cyn dod i weithio fel Gweithwraig Gefnogol yn 21 oed.
“Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael amryw o gyfleoedd gwaith yma; cefais secondiad i greu Cynlluniau Person Canolog, gweithio yn yr adran gyllid ac yn y Warws Werdd, prosiect ailgylchu dodrefn a dillad ar Stâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon.
“Yn 2011 cefais gyfle i ddod yn Uwch Weithiwraig Gefnogol yn gweithio ag unigolion gydag anableddau dwys. Ro’n i’n dal i weithio fel Gweithiwraig Gefnogol ond yn cymryd cyfrifoldebau ychwanegol fel creu rotas, trefnu gweithgareddau a llunio asesiadau risg.
“Wrth i’r adran dyfu, cefais y cyfle i weithio fel Is-reolwraig Iechyd a Llesiant ar gyfer yr adran.
“Mae’n swydd brysur ond diddorol – mae pob diwrnod yn wahanol.
“Fy hoff ran o’r swydd yw cael ymuno â gweithgareddau neu dripiau– mae ’na gymaint o hwyl i gael.
“Ro’n i’n arfer dod i’r Antur efo Nain, ac mae amryw o ferched cryf yn ein teulu ni wedi dysgu gwerth gwaith i mi.
“Maent hefyd wedi dangos i mi fod modd magu plant a chynnal gyrfa lwyddiannus.”
Elin Roberts
Daeth Elin Roberts o Lanfairpwll i weithio i Antur Waunfawr yn 2020.
Dywed ei bod hi’n hollbwysig i’w chenhedlaeth hi fod merched yn cael eu gweld mewn safleoedd uchel ym mhob gweithle.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae hi wedi bod yn gweithio i Antur Waunfawr, wedi datblygu ei gyrfa gan hefyd astudio i fod yn weithwraig gymdeithasol.
Mae hi’n dod ymlaen yn dda gyda’i chydweithwyr ac yn gweld nhw ac aelodau ei theulu fel ysbrydoliaeth.
“Cychwynnais yn Antur Waunfawr ym mis Rhagfyr 2020 fel gweithwraig gefnogol yn y gwasanaeth Aml Ofynion,” meddai.
“Mae’n lle mor braf i weithio, mae pawb yn gweithio fel tîm i sicrhau bod yr unigolion yn cael yr amser gora posib.
“Ro’n i’n ffodus iawn i gael dyrchafiad yn 2022 i fod yn Uwch Weithwraig yn y gwasanaeth Aml Ofynion.
“Dwi’n gweithio hefo Siân Williams yn ddyddiol, a dw i wedi creu perthynas gwaith dda iawn hefo hi.
“Yn ogystal â’r swydd yma, dwi hefyd yn astudio ar gyfer gradd i fod yn Weithwraig Gymdeithasol.
“Mae’n bwysig i mi fod merched mewn swyddi uchel ym mhob gweithle.
“Fel dwi wedi sôn eisoes, mae gennyf berthynas dda hefo fy rheolwr llinell Sian, a dw i wedi edrych i fyny iddi hi ers imi gychwyn yn Antur. Mae hi wastad yn barod i helpu eraill a rhoi’r unigolion yn gyntaf.
“Mae’n braf cael gweithio hefo pob merch o fewn Antur Waunfawr, yn enwedig y merched ifanc sy’n weithwyr cefnogol ar y funud.
“Mae’n deimlad braf gwybod bod merched eraill eisiau’r gorau i’r holl unigolion a bod pawb yn gallu gweithio fel tîm.
“Yn hynny o beth mae fy mam yn arwres i mi.
“Mae ganddi amser i bawb ac mae wedi fy nghefnogi yn ystod y cyfnodau heriol yn fy mywyd.”
- Mae Antur Waunfawr yn chwilio am Weithwyr Gofal a Chymorth ar hyn o bryd. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Antur Waunfawr