Mae angen system wedi’i chydlynu’n well ar bobol ddigartref yng Nghymru er mwyn derbyn llety addas a chymorth gwell, meddai un o bwyllgorau’r Senedd.

Fel rhan o’u harchwiliad, bu Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai’r Senedd yn edrych ar y materion sy’n wynebu pobol ddigartref, a chanfod eu bod nhw’n wynebu llu o rwystrau sy’n golygu nad ydyn nhw’n gallu gwella eu sefyllfa.

Ers dyddiau cynnar y pandemig Covid-19, mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu agwedd o “neb heb help” tuag at ddigartrefedd, gyda phob un sydd eisiau lloches yn cael un.

Clywodd y pwyllgor fod llwyddiant y polisi wedi gosod cryn straen ar y system heb fwriad, yn enwedig mewn llety dros dro.

Mae anaddasrwydd y llety dros dro sy’n cael ei gynnig i bobol sy’n wynebu digartrefedd yn peri pryder yn arbennig, meddai’r pwyllgor.

‘Dim cefnogaeth’

O ganlyniad i ddiffyg llety, yn aml mae disgwyl i’r rheiny sy’n gwella ar ôl defnyddio sylweddau megis cyffuriau ac alcohol rannu cyfleusterau gyda rhai sydd yn dal i ddefnyddio sylweddau.

Yn aml, mae pobol yn dewis cysgu ar y stryd er mwyn osgoi’r fath sefyllfaoedd, yn ôl yr archwiliad.

“Pan fyddi di ar dy waethaf a does neb yno i dy helpu, mae’n realiti dychrynllyd,” meddai Wayne, 52, sydd â phrofiad o fod mewn llety dros dro.

“Dw i wedi bod ar y strydoedd ers yn bymtheg oed ac wedi bod i sawl hostel dros y blynyddoedd.

“Roedd hi’n dda cael oddi ar y stryd ond does dim cefnogaeth, y cyfan gei di yw llety.

“Chei di ddim cynnig cwnsela i drafod be’ sy’n mynd ymlaen a does dim cefnogaeth i’r rheini sy’n gaeth.

“Dim ond pan ges i help go iawn y llwyddais i gyrraedd y lan.

“Mae gen i fy fflat fy hun nawr, rwy wedi rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac mae fy merch yn ôl yn fy mywyd.”

‘Staff ar ben eu tennyn’

Clywodd y pwyllgor ei bod hi’n anodd dod o hyd i opsiynau tai ar gyfer pobol ag anghenion cymhleth a dibyniaeth.

Esboniodd llawer o awdurdodau lleol, sy’n rheoli darpariaeth tai cyhoeddus ledled Cymru, fod pob math o lety dros dro yn llawn ar hyn o bryd, a’u bod yn gorfod defnyddio sefydliadau gwely a brecwast, a gwestai.

Yn ei dro, mae hyn wedi arwain at ‘gartrefu’ teuluoedd cyfan mewn ystafelloedd gwesty sengl.

Cafodd y pwyllgor wybod gan Tai Pawb fod y defnydd o lochesi a hosteli wedi cynyddu 18%, tra bo’r defnydd o sefydliadau gwely a brecwast fel llety dros dro wedi cynyddu dros 474%.

Mae’r adroddiad yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i fod yn fwy clir wrth esbonio wrth bobol beth yw eu statws o ran tai a pha mor hir y bydd disgwyl iddyn nhw aros, er mwyn osgoi ansicrwydd.

Yn ôl John Griffiths, cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, mae miloedd o bobol yng Nghymru yn ddigartref ond mae angen i’r cymorth a’r llety sy’n cael eu cynnig iddyn wella’n arw.

“Dro ar ôl tro, clywsom straeon hynod bryderus am deuluoedd yn byw mewn ystafelloedd gwesty sengl am fisoedd heb unrhyw syniad pryd y bydden nhw’n cael cartref addas,” meddai’r Aelod Llafur o’r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd.

“Ar ben hyn, mae’r staff ar lawr gwlad – sy’n cefnogi pobol hynod fregus ac yn mynd i’r afael â sefyllfaoedd cymhleth bob dydd – ar ben eu tennyn.

“Dylid canmol agwedd “neb heb help” Llywodraeth Cymru a heb unrhyw amheuaeth, mae’r polisi wedi achub llawer o fywydau.

“Serch hynny, mae’n ffaith ein bod ni bellach yn gweld llawer o broblemau.

“Yn y bôn, yr hyn sy’n achosi digartrefedd yw diffyg tai cymdeithasol yn y wlad.

“Gwyddwn nad oes modd syml o ddatrys y problemau niferus yn y system, ond mae’r sefyllfa bresennol yn anghynaladwy.

“Os yw’r problemau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad hwn yn mynd i gael eu datrys, yna mae rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried argymhellion y Pwyllgor fel mater o frys.”