Mae cynghrair o sefydliadau Cymreig wedi dod ynghyd i alw am fwy o gefnogaeth i rentwyr.

Cyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi eu Cyllideb Wanwyn yr wythnos nesaf, mae cynghrair Homes for All Cymru’n galw arnyn nhw i ddadrewi’r Lwfans Tai Lleol.

Pwrpas y Lwfans ydy darparu digon o gymorth i bobol drwy’r system fudd-daliadau i fforddio’r tai sydd yn y 30% rhataf o’r stoc dai mewn ardal, yn dibynnu ar eu maint.

Mae’r Lwfans wedi cael ei rewi ers 2020, ond mae ymchwil gan Sefydliad Bevan yn dangos mai dim ond 1.2% o’r tai gafodd eu hysbysebu ar gyfer eu rhent rhwng Chwefror 3 a Chwefror 17 fyddai’n cyd-fynd â graddau’r Lwfans.

At ei gilydd, dim ond 32 eiddo yng Nghymru oedd ar y farchnad oedd yn cyd-fynd â’r Lwfans Tai Lleol.

Doedd dim tai addas o gwbl yn 16 o awdurdodau lleol Cymru.

Wrth ymateb i’r canfyddiadau, dywed Dr Steffan Evans, un o awduron yr adroddiad, eu bod nhw’n “hynod bryderus”.

“Gyda chyn lleied o eiddo ar gael ar y farchnad ar lefelau’r Lwfans Tai Lleol does gan nifer o denantiaid sydd ar incwm isel fawr o ddewis: symud i eiddo sy’n anfforddiadwy ac wynebu caledi economaidd, symud i gartref ansawdd isel, neu ddod yn ddigartref,” meddai.

‘Amhosib dod o hyd i rywle’

Mae sefydliadau dros Gymru wedi bod yn adrodd bod y penderfyniad i rewi’r Lwfans yn cael effaith ar eu gwasanaethau.

Yn ôl Ruth Power, Prif Weithredwr Shelter Cymru a Chadeirydd Homes for All Cymru, mae pa mor annigonol yw’r lwfans yn “gwthio pobol i dlodi ac yn cadw pobol yn ddigartref”.

“Mae hi’n nesaf peth i amhosib i ddod o hyd i rywle fforddiadwy i fyw os ydych chi’n rhentwr preifat sy’n dibynnu ar y Lwfans Tai Lleol,” meddai.

“Yn Shelter Cymru mae pobol sydd wedi cyrraedd pen eu tennyn yn cysylltu â ni bob dydd, yn cael eu gorfodi i ddigartrefedd achos fedra nhw ddim ffeindio unman maen nhw’n gallu ei fforddio.

“Ynghanol yr argyfwng costau byw, rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wrando ar yr alwad gynyddol i ddadrewi’r Lwfans Tai Lleol.”

‘Gorfodi i ddigartrefedd’

Ychwanega Debbie Thomas, Pennaeth Polisi a Chyfathrebu Wales at Crisis, fod yr ystadegau’n cadarnhau’r hyn maen nhw’n ei weld yng nghanolfan Skylight yn ne Cymru.

“Mae gormod o bobol a theuluoedd yn cael eu gorfodi i ddigartrefedd oherwydd nad ydy’r budd-daliadau tai yn ddigon i gadw to uwch eu pennau,” meddai.

“Mae hi bron yn dair blynedd ers i’r budd-dal tai gynyddu ddiwethaf, ac wrth i gostau byw gynyddu mae pobol yn cael eu prisio allan o gael cartref.

“All hyn ddim parhau.

“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ymateb nawr fel bod y budd-dal tai yn gallu cyflawni ei bwrpas ac amddiffyn y rhai ar incymau isel.”