Protestwyr yn Tehran
Mae Saudi Arabia wedi dweud y bydd yn torri pob cysylltiad diplomyddol gydag Iran wrth i densiynau rhwng y ddwy wlad gynyddu yn dilyn penderfyniad y deyrnas i ddienyddio clerigwr Shiaidd blaenllaw.
Daw’r cyhoeddiad oriau’n unig ar ôl i brotestwyr gynnau tân yn llysgenhadaeth Saudi Arabia yn Tehran, lle mae hyd at 40 o bobol wedi cael eu harestio.
Dywedodd gweinidog tramor Saudi Arabia, Adel al-Jubeir, fod gan staff diplomyddol o Iran 48 awr i adael y wlad a bod pob diplomydd o Saudi Arabia yn Iran wedi cael eu galw yn ôl.
Mae gwrthwynebiad rhyngwladol wedi bod yn erbyn y wlad am ddienyddio 47 o bobol, gan gynnwys y clerigwr Sheikh Nimr al-Nimr, a oedd yn ganolog mewn protestiadau tan iddo gael ei arestio yn 2012.
Roedd gweddill y bobol a gafodd eu dienyddio yn cynnwys gwrthryfelwyr Shiaidd a nifer o aelodau o al-Qaida.
Galw am lonyddwch
Wrth i fygythiadau am ragor o drais gynyddu rhwng Saudi Arabia ac Iran, fe alwodd y Deyrnas Unedig ar y ddwy wlad i bwyllo.
“Rwyf wedi cael fy aflonyddu gan y tensiynau cynyddol yn y 24 awr ddiwethaf yn y Dwyrain Canol,” meddai gweinidog y Swyddfa Dramor, Tobias Ellwood.
“Mae’r DU yn bendant yn gwrthwynebu’r gosb eithaf. Rydym wedi pwysleisio hyn ag awdurdodau Saudi Arabia a hefyd wedi mynegi ein siom gan y dienyddio.
“Mae’n bryder mawr clywed am yr ymosodiad ddoe ar lysgenhadaeth Saudi Arabia yn Tehran. Mae’n hanfodol bod cenadaethau diplomyddol yn cael eu diogelu a’u parchu’n iawn.”