David Cameron
Fe fydd asiantaethau cudd-wybodaeth yn asesu’r hyn y credir sy’n fideo newydd gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) sy’n dangos pum dyn yn cael eu llofruddio ar ôl cael eu cyhuddo o ysbio ar ran y DU.
Mae’r fideo, sydd wedi ymddangos ar-lein, yn dangos jihadydd gydag acen Saesnig, yn gwisgo mwgwd, ac yn herio’r Prif Weinidog David Cameron ynglŷn â chyrchoedd awyr yr Awyrlu yn erbyn IS yn Irac a Syria.
Nid yw’r fideo wedi cael ei asesu’n annibynnol hyd yn hyn ond mae’n dangos pum dyn yn “cyffesu” i ffilmio a thynnu lluniau o safleoedd IS yn gyfnewid am arian yn Raqqa, sydd wedi cael ei feddiannu gan IS.
Mae’r fideo yn debyg i’r rhai a oedd yn dangos y jihadydd o Brydain, a oedd yn cael ei adnabod fel “Jihadi John.” Ei enw iawn oedd Mohammed Emwazi ac fe ymddangosodd mewn fideos yn dangos dienyddiad y Prydeinwyr David Haines ac Alan Henning, ynghyd a’r newyddiadurwyr o America, James Foley and Steven Sotloff.
Cafodd Mohammed Emwazi ei ladd mewn ymosodiad gan awyren ddi-beilot yr Unol Daleithiau yn Syria ym mis Tachwedd.
Mae bachgen ifanc mewn gwisg filwrol hefyd yn ymddangos yn y fideo.
Daw’r fideo ddyddiau’n unig ar ôl i David Cameron roi addewid i fynd i’r afael a phobl sy’n gefnogol o IS gan ddweud yn ei Neges Flwyddyn Newydd y dylai Prydeinwyr fod yn “deyrngar” i’w gwlad.