Carl Sargeant
Mae deddfwriaeth newydd yn dod i rym heddiw, a fydd yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol ystyried y Gymraeg cyn rhoi sêl bendith i gynlluniau datblygu newydd.

O dan Ddeddf Cynllunio Cymru, bydd yn ofynnol i bob awdurdod cynllunio lleol ystyried yr effaith y bydd ei bolisïau cynllunio a safleoedd datblygu newydd yn ei gael ar yr iaith Gymraeg yn yr ardal.

Y bwriad yw rhoi eglurder a sicrwydd i swyddogion cynllunio a chynghorwyr wrth wneud penderfyniadau o’r fath a sicrhau cysondeb ledled y wlad, meddai Llywodraeth Cymru.

‘Carreg filltir’

 

Yn ôl y Gweinidog Cynllunio, Carl Sargeant, mae’r ddeddf newydd yn “garreg filltir bwysig a fydd yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn cael ei hystyried yn y system gynllunio.”

“Rydyn ni wedi diwygio TAN 20 er mwyn rhoi rhagor o fanylion i awdurdodau cynllunio ar sut i sicrhau bod ystyriaethau’n ymwneud â’r Gymraeg yn rhan o strategaeth a pholisïau’r Cynllun Datblygu Lleol,” meddai.

“Gall awdurdodau cynllunio lleol ddiffinio yn eu Cynlluniau Datblygu Lleol ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn arbennig o sensitif neu arwyddocaol, a bydd lle i randdeiliaid gynorthwyo gyda’r gwaith hwnnw.”

Yn dilyn cyflwyno’r ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio a’r Gymraeg, a bydd yn ymgynghori arni am gyfnod o 3 mis.

Angen ‘newidiadau mwy sylweddol’

 

Wrth ymateb i’r ddeddf newydd, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud ei fod am weld “newidiadau mwy sylweddol” yn y drefn cynllunio yn sgil y newyddion heddiw.

“Mae’n hen bryd i ni weld y Gymraeg yn cael ei ystyried wrth ddatblygu tai a chynllunio ar gyfer dyfodol cymunedau Cymru,” meddai Elwyn Vaughan, llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Gymunedau Cynaliadwy.

Yn ôl y mudiad, mae cynlluniau datblygu tai ledled y wlad, gan gynnwys y cynllun i godi 366 o dai ym Mangor yn ddiweddar, a gafodd ei wrthod ar sail ei effaith ar y Gymraeg, yn dangos bod angen deddf genedlaethol sy’n ystyried y Gymraeg.

Ond dim ond ateb byrdymor yw hwn yn ôl Cymdeithas yr Iaith ac mae angen “trawsnewid” y system gynllunio yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod y “tai iawn yn y lle iawn pan fydd eu hangen.”