Bu farw dau ddyn ifanc yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Hengoed ger y Coed-duon, Caerffili neithiwr.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i’r safle ar yr A469 yn Nhir-y-Berth, Hengoed toc cyn 7.30yh nos Sul, Ionawr 3.

Fe fu farw dyn 18 oed a llanc 17 oed, y ddau o ardal Aberbargod, yn y fan a’r lle.

Cafodd dyn arall 18 oed o ardal Aberbargod ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau difrifol.

Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth i’r gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta lliw piws a Vauxhall Astra lliw arian. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101.