Mae gwasanaethau trên ar draws Cymru wedi cael eu canslo heddiw oherwydd streic gan yrwyr cwmni Trenau Arriva Cymru ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith.
Mae aelodau o undeb Aslef wedi dechrau streic 24 awr sy’n achosi trafferthion i nifer o bobl sy’n dychwelyd i’r gwaith am y tro cyntaf ddydd Llun ar ôl gwyliau’r Nadolig.
Dywedodd y cwmni bod disgwyl i’w holl wasanaethau gael eu canslo oherwydd y streic ac y gallai rhai trenau yn gynnar bore dydd Mawrth hefyd gael eu heffeithio. Mae Arriva wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra i deithwyr.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni eu bod yn parhau i wneud popeth yn eu gallu i osgoi streic ond maen nhw’n cynghori pobl i wneud trefniadau eraill ar gyfer heddiw a sicrhau eu cynlluniau teithio ar gyfer bore dydd Mawrth, 4 Ionawr.
‘Siomedig’
Dywedodd llefarydd ar ran Trenau Arriva Cymru, Gareth Thomas: “Rydym yn hynod o siomedig nad yw undeb y gyrwyr trenau wedi derbyn ein cynnig diweddaraf o welliannau i’w amodau a chyflogau, a’u bod wedi penderfynu gweithredu’n ddiwydiannol, er ein bod ni wedi gwneud cynnig diwygiedig iddyn nhw ar 23 Rhagfyr yn dilyn trafodaethau cyn y Nadolig.”
Ychwanegodd bod cyfarwyddwyr y cwmni wedi bod mewn cysylltiad gyda swyddogion yr undeb bron bob dydd er mwyn ceisio datrys yr anghydfod.
Mae’r undeb wedi gwadu honiadau’r cwmni bod cynnig newydd wedi cael ei wneud.
Dywed Aslef eu bod yn fodlon trafod ond nad oedd unrhyw beth i’w drafod ar hyn o bryd.
‘Streic yn gwbl ddiangen’
Ond yn ol Eryl Jones, llefarydd ar ran Arriva Cymru, mae’r streic “yn gwbl ddiangen.”
Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf bore ma: “Fe fydd yn creu anghyfleustra mawr i niferoedd ar hyd a lled y wlad.
“Dan ni wedi bod mewn trafodaethau gyda’r undeb ers tua chwe mis, mae cynnig wedi cael ei wneud ac wedi cael ei dderbyn ond am ryw reswm dydyn nhw ddim yn hapus gyda geiriad rhai o’r amodau ac felly wedi cynnal streic.”