Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Abertawe benodi Alan Curtis yn rheolwr dros dro tan ddiwedd y tymor, yn ôl papur newydd y South Wales Evening Post.

Fe fu Curtis wrth y llyw ers i Garry Monk gael ei ddiswyddo yn dilyn perfformiadau siomedig yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn.

O dan ei arweiniad, mae’r Elyrch wedi ennill un, colli dwy ac wedi cael dwy gêm gyfartal.

Aeth cadeirydd y clwb, Huw Jenkins i Dde America i chwilio am olynydd i Monk ac fe fu bron iddyn nhw benodi’r Archentwr Marcelo Bielsa, ond doedd dim modd dod i gytundeb gyda’r rheolwr sy’n cael ei alw’n ‘El Loco’.

Byddai penodi Curtis tan ddiwedd y tymor yn rhoi rhagor o amser i’r clwb chwilio am olynydd parhaol, ac mae eu cyn-reolwr Brendan Rodgers a rheolwr Ajax, Frank de Boer ymhlith y ffefrynnau ar hyn o bryd.

Gallai’r Elyrch wneud cyhoeddiad am y sefyllfa’r wythnos hon, gan ddechrau chwilio go iawn am reolwr newydd yn ystod yr haf.

Mae adroddiadau’n awgrymu y byddai Rodgers a de Boer ar gael bryd hynny ac y byddai ganddyn nhw ddiddordeb yn y swydd.

Ond pe bai’r Elyrch yn llwyddo o dan Alan Curtis, fe allai’r clwb berswadio’r hyfforddwr sydd wedi gwrthod y swydd yn y gorffennol i gymryd ati’r tro hwn.

Ond am y tro, bydd Curtis yn parhau i weithio gyda’i dîm hyfforddi dros dro – pennaeth yr academi Dave Adams, hyfforddwr y gôl-geidwaid Tony Roberts a’r seicolegydd Dr Ian Mitchell.

Angel Rangel

Yn y cyfamser, mae amddiffynnwr yr Elyrch, Angel Rangel wedi cyfaddef ei fod e wedi deifio er mwyn ceisio ennill cic o’r smotyn wrth i Abertawe golli o 2-1 yn erbyn Man U yn Old Trafford brynhawn Sadwrn.

Wedi 63 o funudau, ceisiodd Rangel ergydio wedi i ergyd Andre Ayew adlamu oddi ar y trawst, ond cafodd ei daclo gan Matteo Darmian.

Roedd y cefnogwyr – a Rangel – wedi ymbil ar y dyfarnwr Jon Moss am gic o’r smotyn, ond gwelodd Rangel gerdyn melyn am ddeifio.

Wedi’r ornest, cyfaddefodd Rangel fod Moss wedi gwneud y penderfyniad cywir.

Daw’r cyfaddefiad ychydig dros wythnos wedi i Rangel gyhuddo chwaraewr canol cae West Brom, Callum McManaman o’r un drosedd.

“Fe ges i dipyn o ffrae gyda McManaman yr wythnos diwethaf gan ei fod e wedi deifio, ond gwnes i ddeifio heddiw ac os yw’n ddeifio, yna mae’n gerdyn melyn.

“Fe wnaeth e (Darmian) fy nghyffwrdd i, ond do’n i ddim yn meddwl ei bod hi’n gic o’r smotyn.

“Fe ddywedais i wrth y dyfarnwr: ‘Da iawn’.”

“Doedd y cyffyrddiad ddim yn ddigonol i fi fynd i lawr ond ro’n i’n colli cydbwysedd ac fe feddyliais i: ‘Dydy hyn ddim fel twyllo go iawn ond ro’n i’n cwympo eisoes felly wnes i ei hawlio hi. Gambl oedd hi.”