Collodd Devils Caerdydd ar yr iâ am yr eilwaith mewn deuddydd wrth i Braehead Clan eu curo o 3-1 nos Sul.

Roedd hi’n noson lwyddiannus i golwr Braehead, Travis Fullerton yn ei ornest gyntaf i’r Albanwyr wrth iddo arbed 33 allan o 34 o ergydion y Devils.

Roedd hi’n ddi-sgôr yn y cyfnod cyntaf, ond aeth Braehead ar y blaen wrth i Scott Aarssen ddarganfod y rhwyd gyda phum munud yn weddill o’r cyfnod.

Ymestynnodd Braehead eu mantais yn y cyfnod olaf wrth i Alex Leavitt sgorio i’r Albanwyr wedi 46:17 munud.

Sgoriodd y Cymry drwy Joey Martin wedi 58:46 wedi iddyn nhw benderfynu tynnu Ben Bowns o’r gôl a’i ddefnyddio fel ymosodwr ychwanegol.

Ond buan y methodd y cynllun wrth i Stefan Meyer sgorio trydedd gôl yr Albanwyr i selio tynged y Devils gyda 26 eiliad yn unig o’r ornest yn weddill.

Er gwaetha’r canlyniad, mae’r Devils yn parhau ar frig y gynghrair ac fe fyddan nhw’n herio Panthers Nottingham yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn nesaf.