Mae rheolwr Ajax, Frank de Boer wedi gwrthod wfftio adroddiadau sy’n ei gysylltu â swydd rheolwr Abertawe, yn ôl Wales Online.
Cyn-chwaraewr yr Iseldiroedd yw’r enw diweddaraf i gael ei grybwyll fel olynydd i Garry Monk, tra bod Alan Curtis yn gofalu am y garfan dros dro.
Mae rheolwr presennol Ajax wedi dweud ei fod yn aros gyda’r clwb yn ei famwlad tan yr haf.
Yn ôl y wasg yn yr Iseldiroedd, doedd de Boer ddim wedi gwneud sylw am swydd Abertawe yn ystod cynhadledd i’r wasg, gan ychwanegu: “Byddaf yn (gorffen) y tymor gydag Ajax.”
Yr wythnos diwethaf, dywedodd de Boer: “Yn gyntaf, rhaid i chi weld beth yw’r cynllun o fewn y clwb a beth gallaf fi a’r bobol sy’n mynd gyda fi ei ychwanegu at hynny.”
Ond ychwanegodd nad yw wedi cynnal unrhyw drafodaethau gyda’r Elyrch.
Mae’n ymddangos bod taith cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins i Dde America wedi bod yn ofer, gan mai ychydig iawn o sôn sydd wedi bod dros yr wythnos ddiwethaf am Marcelo Bielsa, oedd yn ffefryn ar un adeg i gael ei benodi.