Collodd tîm hoci iâ Devils Caerdydd o 3-2 yn erbyn Dundee ar eu tomen eu hunain nos Sadwrn.

Aeth y Cymry ar y blaen wrth i Guillaume Doucet ddarganfod y rhwyd wedi bron i 33 munud.

Tair munud yn unig gymerodd hi i’r Albanwyr unioni’r sgôr drwy Lou Dickenson, ac roedden nhw’n gyfartal ar ddechrau’r cyfnod olaf.

Aeth y Devils ar y blaen unwaith eto gyda thair munud a hanner yn weddill, a hynny diolch i gôl gan Joey Martin.

Ond tarodd Dundee yn ôl unwaith eto wrth i John Dolan daro ergyd heibio’r golwr Ben Bowns.

Daeth sawl cyfle i’r Cymry yn yr amser ychwanegol, ond fe fu’n rhaid penderfynu’r ornest o’r smotyn.

O’r smotyn, llwyddodd Ben Bowns i atal yr ergyd gyntaf, ond sgoriodd Curtis Leinweber i sicrhau’r fuddugoliaeth i’r ymwelwyr yn dilyn tair ergyd aflwyddiannus gan y Devils.

Mae’r Devils yn parhau ar frig y gynghrair, ac mae ganddyn nhw fantais o bum pwynt dros Sheffield.