Mae Heddlu’r Alban yn ymchwilio i farwolaeth y cricedwr Matt Hobden, gynt o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd a Chlwb Criced Ynysygerwn.

Daeth cadarnhad nos Sadwrn fod y bowliwr cyflym, fu’n chwarae i Swydd Sussex ers dau dymor, wedi marw’n 22 oed.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi ar wefan Clwb Criced Swydd Sussex.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan yr heddlu mewn tŷ yn yr Alban.

Ond dydy ei farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae’r achos wedi’i drosglwyddo i’r awdurdodau yn yr Alban.

Fe fu’n chwarae i dîm cynta’r sir ers 2014.

Gwnaeth ei ymddangosiad dosbarth cyntaf mewn criced yn erbyn Gwlad yr Haf yn Taunton.

Cafodd ei enwi yng ngharfan Rhaglen Berfformio Potensial Lloegr ar gyfer taith i Dde Affrica fis nesaf, lle byddai wedi bod yn helpu’r brif garfan yn eu paratoadau ar gyfer cyfres undydd ryngwladol 50 pelawd.

Chwaraeodd yr olaf o’i 18 o gemau i Swydd Sussex fis Awst diwethaf.

Yn fyfyriwr, aeth i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle graddiodd mewn Busnes a Chyllid, ac fe gynrychiolodd dîm criced y brifysgol rhwng 2011 a 2014.

Fe chwaraeodd i Glwb Criced Ynysygerwn yn Uwch Gynghrair De Cymru yn 2013.

Ar eu safle Twitter, dywedodd y clwb: “Mae pawb yn Ynysygerwn yn drist o glywed y newyddion am Matt Hobden o Sussex CCC. Rydym yn cydymdeimlo gyda’i deulu.”

Teyrngedau

Wrth gyhoeddi ei farwolaeth, dywedodd Clwb Criced Swydd Sussex: “Sioc a thristwch o’r mwyaf i Griced Swydd Sussex yw clywed am golli Matthew Hobden.

“Roedd Matthew yn gricedwr ifanc cyffrous a chanddo ddyfodol mawr o’i flaen yn y gamp.

“Roedd yn unigolyn gwych oedd wedi symud trwy rengoedd Ieuenctid ac Academi Swydd Sussex, ac wedi’i eni’n lleol yn Eastbourne.

“Hoffai Swydd Sussex estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau Matthew ar yr adeg anodd hon.”

Ychwanegodd tîm criced Prifysgol Fetropolitan Caerdydd ar eu tudalen Twitter: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad gyda’r teulu Hobden. Hobo – roeddet ti’n ddyn ifanc talentog a hyfryd. All geiriau ddim esbonio #crimsoncap.”

Mewn datganiad, dywedodd prif weithredwr Cymdeithas y Cricedwyr Proffesiynol, Angus Porter fod gan Hobden “botensial sylweddol”.

“Bydd y PCA yn cydweithio’n agos gyda Swydd Sussex er mwyn sicrhau bod eu chwaraewyr a’u staff hyfforddi’n cael cefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn i’r clwb.”