Mae’r heddlu ym Mecsico wedi lladd dau o bobol ac wedi arestio tri arall yn dilyn llofruddiaeth maer oedd newydd gael ei dderbyn i’r swydd.

Mae lle i gredu bod giang yn gyfrifol am lofruddiaeth Gisela Mota yn ei chartref yn Temixco, un o’r dinasoedd yn ardal Cuernavaca sydd dan fygythiad oherwydd giangiau.

Daeth yr heddlu o hyd i gar, ac fe ddechreuodd unigolion saethu atyn nhw.

Daethon nhw o hyd i arfau mewn ail gar.

Cafodd tri o bobol eu harestio – dynes 32 oed, unigolyn 18 oed a llanc.

Mewn datganiad, dywedodd corff sy’n cynrychioli meiri Mecsico fod bron i 100 o feiri wedi’u lladd ym Mecsico yn ystod y degawd diwethaf.

Roedd Gisela Mota wedi cael ei derbyn i’w swydd ar Ddydd Calan.

Dywedodd ei phlaid ei bod hi’n “ddynes gref a dewr” oedd wedi addo herio troseddwyr.