Mae’r heddlu wedi ymateb i fygythiad o gyflafan mewn ysgol uwchradd yn Swydd Gaerhirfryn.

Dywedodd heddlu’r sir eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad i geisio darganfod pwy sy’n gyfrifol am gyfres o negeseuon ar y wefan gymdeithasol Facebook oedd yn bygwth “lladd cynifer o bobol â phosib” yn Ysgol Uwchradd Montgomery yn Bispham ger Blackpool ddydd Llun.

Dywedodd y neges ar ffurf poster fod y bygythiad yn ffordd o ddial am fwlio honedig yn yr ysgol.

Roedd y neges yn canmol ymosodwyr yn yr Unol Daleithiau, gan fygwth “bwledi, cyrff a gwaed”.

Dydy’r heddlu ddim yn credu bod ymosodiad yn bosibilrwydd cryf, ond mae eu hymchwiliad yn parhau.

Bydd yr ysgol ar agor fore Llun.