Kashmir
Mae nifer y bobol a fu farw yn dilyn ymosodiad ar safle awyrlu India wedi codi i chwech ar ôl i bedwar o filwyr farw o ganlyniad i’w hanafiadau.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awyrlu bod ymdrechion i ddiogelu safle Pathankot yn parhau.
Digwyddodd yr ymosodiad ddydd Sadwrn, wythnos yn unig wedi’r ymweliad cyntaf gan un o Brif Weinidogion India â Phacistan ers 12 mlynedd.
Mae ymchwiliad yr heddlu wedi dechrau, ond dydy hi ddim yn glir eto o ble’r oedd yr ymosodwyr yn dod.
Cafodd nifer ohonyn nhw eu lladd gan heddlu India.
Ymwelodd Prif Weinidog India, Narendra Modi â Phacistan ar Ddydd Nadolig i gynnal cyfarfod â Phrif Weinidog y wlad honno, Nawaz Sharif.
Dyma’r ail waith iddyn nhw gyfarfod o fewn mis, yn dilyn cyfarfod byr adeg yr uwchgynhadledd newid hinsawdd ym Mharis.
Mae Pathankot ar y ffin rhwng Kashmir a gweddill India a rhannau o Bacistan.
Fe fu brwydro ffyrnig yn Kashmir ers 1989 wrth iddyn nhw frwydro am annibyniaeth neu uno â Phacistan.
Mae’r ymosodiad diweddaraf yn cael ei ystyried fel ymgais i niweidio’r berthynas rhwng India a Phacistan.