Tadcaster
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn neilltuo £40 miliwn er mwyn atgyweirio amddiffynfeydd wedi’r llifogydd o ganlyniad i Storm Eva.
Cafodd y pecyn cymorth newydd ei gyhoeddi gan Brif Weinidog Prydain, David Cameron.
Fe fydd Llywodraeth Prydain yn cyfrannu hyd at £2 miliwn ar ben yr arian sydd wedi’i godi gan elusennau ar gyfer cymunedau yng ngogledd Lloegr a gafodd eu heffeithio dros gyfnod y Nadolig.
Wrth gyhoeddi’r cymorth, dywedodd David Cameron: “Rwy wedi gweld drosof fy hun y difrod sydd wedi’i achosi gan lifogydd. A dyna pam fod y gwaith hwn o atgyweirio a gwella amddiffynfeydd rhag llifogydd mor hanfodol.
“Rydyn ni eisoes yn gwario £280 miliwn dros y chwe blynedd nesaf i warchod miloedd o gartrefi rhag llifogydd yn Swydd Efrog fel rhan o’n buddsoddiad gwerth £2.3 biliwn i amddiffyn 300,000 o dai ar draws y wlad.”
Bydd oddeutu £10 miliwn yn cael ei wario yng Nghaerefrog wedi i amddiffynfeydd fethu ag agor yn ystod y llifogydd.
Bydd gweddill yr arian yn mynd at drwsio pontydd a chodi cymuned Tadcaster ar ei thraed unwaith eto wedi i’r dref gael ei hollti’n ddwy.
Mae arian eisoes wedi’i godi ar gyfer cymunedau a gafodd eu heffeithio gan Storm Desmond yn siroedd Cumbria, Caerhirfryn a Northumberland.
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth, Robert Goodwill hefyd wedi’i benodi’n “llysgennad llifogydd” ar gyfer Swydd Efrog.
Beirniadaeth
Ond mae’r pecyn cymorth wedi’i feirniadu gan arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron.
“Dro ar ôl tro, mae David Cameron yn cynnig geiriau cynnes ac ychydig o nawdd ar gyfer ateb tymor byr.
“Ni fyddai angen yr arian hwn nawr pe bai e wedi gwireddu cynifer o ymrwymiadau blaenorol i wir amddiffyn cartrefi oedd wedi’u bygwth gan lifogydd.”
Galwodd yr Aelod Seneddol Llafur, Hilary Benn ar David Cameron i ymrwymo i ariannu amddiffynfeydd yn Leeds.
“Fel y gwyddon ni… gwnaeth gweinidogion gamgymeriad ofnadwy pan wrthodon nhw ariannu’r cynllun llawn yn 2011 a nawr mae angen iddyn nhw gywiro hynny.”